Croeso i Her 8.
Ar gyfer y senario terfynol sy'n seiliedig ar ymarfer, rydym yn archwilio stigma a'r effaith y gall hyn ei chael ar unigolion. Stigma yw anghymeradwyo, neu wahaniaethu yn erbyn, person neu grŵp o bobl.
Mae hyn yn aml yn seiliedig ar nodweddion cymdeithasol amlwg sy'n gwahaniaethu'r unigolyn neu'r grŵp oddi wrth aelodau eraill o gymdeithas. Mae ein gweithredoedd, ein canfyddiadau a'n geiriau yn creu stigma. Gall stigmateiddio credoau ac agweddau gael effaith ddinistriol ar allu rhywun i gael gafael ar y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.
Er bod y senario hwn yn ymwneud â fferylliaeth gymunedol, gellir defnyddio'r dysgu ar draws pob sector ymarfer.
Dylai pobl sy'n defnyddio sylweddau'n broblemus gael yr un driniaeth a chymorth â'r rhai sydd ag unrhyw gyflwr iechyd arall. I gael gwybod mwy am sut y gallwch ddechrau chwalu'r stigma a wynebir gan y rhai sy'n gaeth i gyffuriau, edrychwch ar Ymgyrch Cynghrair Darparwyr Cymorth Dibyniaeth y GIG.