Croeso i Her 6. Dewiswch un o’r gweithgareddau canlynol, neu’r ddwy ohonynt, ar gyfer yr her nesaf hon:
1. Fflach-ffeithiau Fferylliaeth
Atebwch y 5 cwestiwn canlynol i brofi’ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o ofal diwylliannol gymwys sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Datblygwyd y cwestiynau hyn yn sgil e-her CPPE.
2. Blogiau
Darllenwch ddetholiad o Flogiau RPS sy'n amlygu enghreifftiau o weithgareddau y mae rhai gweithwyr fferyllol proffesiynol wedi ymgymryd â hwy i sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth ac arferion cynhwysol ym maes fferylliaeth. Mae rhai blogiau rydym yn eu hargymell yn cynnwys:
Cefnogi derbyniadau’r brechlyn mewn cymunedau lleiafrifoedd ethnig
Trin cleifion yn y gymuned sydd â feirysau a gludir yn y gwaed
Darparu gofal o'r ansawdd gorau i gleifion trawsryweddol
Annog a hybu cydraddoldeb i fenywod mewn fferylliaeth
Ymgysylltu â'r genhedlaeth nesaf o fferyllwyr du
Cwestiynau i gefnogi myfyrdod:
Beth ydych chi wedi'i ddysgu?
A ydych wedi canfod unrhyw enghreifftiau o arferion cynhwysol y gallwch eu dwyn ymlaen i’ch ymarfer eich hun?
Ydych chi wedi canfod/nodi unrhyw anghenion dysgu?