Croeso i Her 4. Ar gyfer yr her hon, mae gennym ein hail senario sy'n seiliedig ar ymarfer. Yn y senario hwn rydym yn archwilio'r effaith y gall cymryd yr amser i ynganu enw cleifion yn gywir ei chael.
Fel y trafodwyd gan Gymdeithas Feddygol Prydain, mae ynganu enw rhywun yn gywir yn arwydd o barch. Mae camynganu enw rhywun dro ar ôl tro, ar y llaw arall, yn fwy tebygol o gael ei ystyried yn microymosodiad.
Diffinnir microymosodiad fel rhyngweithiadau neu ymddygiadau anuniongyrchol, boed yn fwriadol neu'n anfwriadol, sy'n cyfleu rhyw fath o duedd tuag at grwpiau sy'n cael eu stigmateiddio neu eu hymyleiddio'n ddiwylliannol. Gall cymryd yr amser i ddysgu enw claf, dangos diddordeb, a cheisio cael ei enw'n iawn wneud llawer i sicrhau bod cleifion yn teimlo eu bod yn cael eu gweld a'u clywed, a gallhelpu i sicrhau bod cleifion yn teimlo eu bod yn gallu cael gafael ar y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnynt pan fydd ei angen arnynt.
Er bod y senario hwn yn ymwneud â fferylliaeth gymunedol, gellir defnyddio'r dysgu ar draws pob sector ymarfer.
1. Sut wnaeth y senario hwn wneud i chi deimlo?
2. Beth ddysgoch chi?
3. Sut byddwch chi'n gweithredu'r dysgu hwn yn eich ymarfer?
4. Ydych chi wedi nodi unrhyw anghenion dysgu ychwanegol?
I ddysgu mwy gan Bami ewch i: inspiredtosoar