Gwnewch yn siŵr bod pob rhan o’r Contract wedi’u cytuno a’u cwblhau. Rhaid i unrhyw addasiadau, a dylai’r rhain fod yn rhai bach, gael eu llofnodi gan bob parti a’u cyflwyno i’r Deon Deintyddiaeth Ôl-radd i’w cymeradwyo.
Os ydych chi’n cytuno i dderbyn swydd, bydd fframweithiau cyfreithiol a moesegol sy’n bodoli mewn unrhyw weithdrefn recriwtio yn berthnasol i chi. Peidiwch â derbyn swydd oni bai eich bod chi’n siŵr.
Bydd Cytundeb hyfforddiant yn cael ei lofnodi rhwng y Goruchwylydd Addysgol ac AaGIC, yn ogystal â’r Cytundeb hyfforddiant rhwng y Therapydd Sylfaen ac AaGIC.
Byddwch yn derbyn cyflog penodedig. Bydd hyn yn eich galluogi i ymdrin â chleifion heb unrhyw bwysau ariannol. Mae hyn yn wahanol i drefn ffi fesul eitem, lle mae’r cyflog yn seiliedig ar faint o waith sy’n cael ei wneud. Bydd gennych y fantais o incwm pendant ar ddiwedd y mis cyntaf yn y practis. Byddwch yn cael eich cyflogi ar gontract ffurfiol.
Bydd eich Goruchwylydd Addysgol yn trefnu cyflog ar eich cyfer fel cyflogwr. Telir y cyflog ar Fand 6 ar y Raddfa Gyflog Agenda Newid. Bydd eich cyflog yn cael ei dalu’n fisol. Fe fyddwch yn derbyn slipiau cyflog manwl.
Mae’r Goruchwylydd Addysgol yn gyfrifol am gyfraniadau yswiriant gwladol y cyflogwr, ac am ddidynnu yswiriant gwladol a threthi PAYE y Therapydd.
Rhaid i bob ymarferydd indemnio ei hun yn erbyn risgiau proffesiynol gyda Sefydliad Amddiffyn cydnabyddedig.
Rhaid i’r Goruchwylydd Addysgol gynnig cymorth addysgol priodol gan gynnwys caniatáu i’r Therapydd Sylfaen fynd i 10-12 o ddyddiau astudio, a chyflawni elfennau perthnasol ar y portffolio hyfforddiant. Ni ddylai’r Goruchwylydd Addysgol fynnu bod y Therapydd Sylfaen yn gweithio yn y practis ar yr adeg hon. Rhaid i’r dyddiau astudio gael eu cynnwys yn rhan o’r wythnos waith.
Rhaid i’r Therapydd Sylfaen ddilyn cyfarwyddiadau rhesymol y Goruchwylydd Addysgol. Mae hyn yn hanfodol i sicrhau perthynas broffesiynol rhwng Goruchwylydd Addysgol a Therapydd Sylfaen.
Bydd gofyn i bob practis wneud yn siŵr bod y therapydd sylfaen deintyddol yn treulio o leiaf 50% o’i amser yn cyflawni triniaeth adferol a gwneud yn siŵr bod dim mwy nag awr yn cael ei dreulio ar glaf preifat mewn dydd.
Os gwneir unrhyw waith preifat, bydd ffioedd y Goruchwylydd Addysgol yn cynyddu. Dylid rhoi eglurhad clir i’r claf ynghylch natur contract eu triniaeth.
Bydd 20 diwrnod gwaith o wyliau yn berthnasol i gontract llawn amser – ar y raddfa pro rata, rydych chi’n gymwys i gael 8 diwrnod gwaith (cyfwerth â phedair wythnos ar gontract llawn amser). Bydd unigolyn ar gontract llawn yn cael 8 diwrnod o Wyliau Banc a dylid dynodi hyn ar raddfa pro rata, neu yn unol â pholisïau eich practis. (dylid gwirio hyn gyda’r practis ar ddechrau’r rhaglen).
Mae hefyd hawl i bedair wythnos o gyfnod mamolaeth/salwch PRO RATA a all gael ei ymestyn gyda chymeradwyaeth y Goruchwylydd Addysgol a Chyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddiant. Fel arall, bydd y gyflogaeth yn dod i ben ar unwaith.
Dan unrhyw amgylchiadau, ni ddylid cymryd gwyliau blynyddol yn ystod diwrnodau astudio.
Amser y sesiynau 9 am – 12.30 pm 1.30 pm – 4.30 pm
Gall yr amseroedd hyn amrywio o bryd i’w gilydd
Os ydych chi’n sal, ffoniwch eich practis ar unwaith a rhowch wybod i’r Swyddog Gweinyddol WDTFT ar unwaith drwy ffonio 03300 584 219 (pwyswch 1), neu e-bostiwch Katherine.liddington@wales.nhs.uk. Salwch yw’r unig reswm dilys dros beidio â bod yn bresennol. Dylid trefnu cyfweliadau neu drefniadau personol y tu hwnt i’r amseroedd uchod.
Sylwer, bydd y Goruchwylydd Addysgol yn cael gwybod am unrhyw achos o beidio â mynd i ddiwrnod astudio.
Nodir amser dechrau pob diwrnod astudio yn yr Amserlen. Mae’n werth cofio mai dyma’r amser y bydd y sesiwn yn dechrau, ac y bydd disgwyl i chi fod yn bresennol cyn yr amser dechrau.
Byddwch yn gallu hawlio costau teithio i ac o ddiwrnodau astudio (ar gyfer y rhai sy’n teithio o bell, gellid hawlio costau ar gyfer aros dros nos). Atodir enghraifft o ffurflen hawliadau yn Atodiad 2. Ar ddechrau’r rhaglen, bydd y Swyddog Gweinyddol yn gofyn am dystiolaeth o fanylion eich cyfrif banc er mwyn creu cyfrif i chi ar System Gyllid AaGIC, Oracle. Mae’n bwysig cyflwyno’ch hawliadau cyn gynted ag sy’n bosibl ar ôl mynd i ddiwrnod astudio. Rhaid cyflwyno derbynebau lle bo’n briodol.