Bydd y canllaw hwn yn cael ei anfon atoch chi ar ôl i chi dderbyn lle ar y Rhaglen WDTFT.
Cyn dechrau yn y practis, dylech chi fod wedi gwneud y canlynol:
- Trafod a chytuno ar eich oriau gwaith gyda’ch Goruchwylydd Addysgol
- Cytuno ar ddyddiad dechrau
- Teimlo’n fodlon a rhoi sicrwydd i’ch Goruchwylydd Addysgol y byddwch yn gallu:
Bod yn bresennol yn y practis a chyrsiau ar ddiwrnodau astudio fel y’i nodir yn eich Contract
Cydymffurfio â thelerau eraill y Contract
- Llofnodi a derbyn copi o’ch Contract
Fe fyddwch chi a’ch Goruchwylydd Addysgol wedi rhoi gwybod i’r Adran Deintyddiaeth Ôl-radd am eich penodiad.
Erbyn yr adeg y bydd eich Contract yn dechrau, dylech chi fod wedi gwneud y canlynol:
- Cofrestru gyda’r Chyngor Deintyddol Cyffredinol. Gall hyn gymryd amser, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru cyn gynted ag sy’n bosibl – ni all therapydd ddechrau ar y Rhaglen nes y bydd wedi cofrestru.
- Bod yn aelod o gymdeithas uniondeb proffesiynol cydnabyddedig
Erbyn diwedd yr wythnos gyntaf yn y practis, dylech chi fod wedi:
- Cael mynediad i’r Portffolio Datblygu Proffesiynol
- Llenwi’r tudalennau am y Goruchwylydd Addysgol a’r dudalen manylion personol
- Cael sgwrs gychwynnol gyda’ch Therapydd Sylfaen a chwblhau’r rhestr wirio dechrau ar brofiad clinigol, a chreu cynllun gweithredu
- Derbyn copi o’r amserlen ar gyfer y diwrnodau astudio
- Cael cyflwyniad i’r ffordd y mae’r practis yn gweithio – mae hyn yn amrywio ond yn rhan bwysig iawn o’ch diwrnodau cyntaf yn y practis.