Hyd yr Hyfforddiant
Gall Hyfforddiant Deintyddol Craidd (DCT) ymestyn am hyd at dair blynedd: DCT1, DCT2, DCT3. Mae Cymru'n unigryw gan ein bod yn cynnig cymysgedd o swyddi 12 mis sefydlog a detholiad o swyddi cylchdro cyfwerth ag amser llawn ar gyfer y flwyddyn DCT1, lle mae Hyfforddeion yn cael dwy swydd sy'n para 6 mis yr un. Mae hyn yn galluogi Hyfforddeion i gael ystod ehangach o brofiadau yn ystod blwyddyn gyntaf eu hyfforddiant deintyddol craidd. Mae'r rhan fwyaf o swyddi DCT am gyfnod penodol o 12 mis, er bod nifer fach wedi'u strwythuro fel swyddi hydredol 24 mis.
Goruchwyliwr Addysgol (ES)
Bydd Goruchwyliwr Addysgol enwebedig yn cael ei neilltuo i bob Hyfforddai Deintyddol Craidd a fydd yn gyfrifol am oruchwylio cynnydd addysgol, cytuno ar gynllun datblygu personol, cynnal adolygiadau cynnydd, rhoi adborth rheolaidd ar gynnydd i'r Hyfforddai ac am ddarparu tystiolaeth ac argymhelliadau ar gyfer cwblhau hyfforddiant. Bydd yr ES yn annog yr Hyfforddai i gwblhau'r e-Bortffolio DCT yn rheolaidd ac i ddefnyddio'r adnoddau addysgol a ddarperir ar gyfer cymorth.
Dylai Hyfforddai wneud trefniadau i gwrdd yn ffurfiol â'i ES cyn gynted â phosibl ac ,fel arfer, yn ystod pythefnos gyntaf y lleoliad. Bydd angen i bob Hyfforddai gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) fel sy'n ofynnol gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC). Dylid llwytho'r CDP hwn i bortffolio AXIA, fel sy'n ofynnol gan y cwricwlwm.
Dylid cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda'ch ES a bydd angen i'ch goruchwyliwr gwblhau adolygiadau ffurfiol, fel sy'n ofynnol gan y cwricwlwm. Mae'r rhain i'w cofnodi yn yr e-bortffolio a dylent gynnwys: adolygiad cychwynnol (o fewn y bythefnos gyntaf), adolygiad interim tuag at ddiwedd y 6 mis cyntaf (IRCP) ac adolygiad terfynol (RCP) ym mis Mehefin/Gorffennaf.
Byddwch yn cwrdd â'ch Goruchwyliwr Addysgol i drafod disgwyliadau a chwblhau'r cytundeb addysgol. Dylid trafod y meysydd canlynol yn y cyfarfod cyntaf hwn:
Y Goruchwyliwr Addysgol sydd yn y sefyllfa orau i asesu anghenion yr Hyfforddai. Drwy'r gwahanol brosesau asesu a gwerthuso, gellir nodi, trafod a mynd i'r afael â'r anghenion hyn. Bydd Goruchwylwyr Addysgol yn annog eu Hyfforddeion i ddatblygu eu sgiliau a'u hagweddau personol eu hunain.
Os nad ydych chi'n siŵr pwy yw eich Goruchwyliwr Addysgol, cysylltwch â'r Rheolwr DCT.
Goruchwyliwr Clinigol
Yn ogystal, bydd gan hyfforddeion nifer o oruchwylwyr clinigol drwy gydol cyfnod yr hyfforddiant deintyddol craidd.
Y rhain yw'r ymgynghorwyr, yr arbenigwyr, y cofrestryddion arbenigol, neu unrhyw staff clinigol eraill rydych chi'n gweithio gyda nhw o ddydd i ddydd yn unrhyw un o'ch lleoliadau. Dim ond yn ystod sesiwn benodol y bydd goruchwylwyr clinigol yn gyfrifol amdanoch chi, ac maent yn gyfrifol am sicrhau bod eich anghenion hyfforddiant clinigol o ddydd i ddydd yn cael eu diwallu. Dylid gofyn iddynt gynnal ymarferion dysgu strwythuredig a chwblhau elfennau o'ch portffolio fel y bo'n briodol.
Cyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi
Bydd gan bob Cynllun Hyfforddiant Deintyddol Craidd Gyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi a benodir gan AaGIC ac a fydd yn gyfrifol am reoli'r cynllun, trefnu cyrsiau addysgol (diwrnodau astudio, seminarau, sesiynau ymarferol, a diwrnodau archwilio) ac a fydd yn darparu cymorth parhaus i Hyfforddeion a goruchwylwyr addysgol a chlinigol.
Prif gyfrifoldebau Cyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi yw:
E-Bortffolio (E-BDP)
Rhaid i bob Hyfforddai Deintyddol Craidd gwblhau portffolio dysgu a datblygu sydd wedi'i gymeradwyo gan AaGIC i ddarparu tystiolaeth o weithgareddau addysgol a hyfforddiant.
Mae AaGIC yn defnyddio e-bortffolio AXIA, sydd wedi'i gymeradwyo'n genedlaethol.
Bydd enwau defnyddwyr a chyfrineiriau Hyfforddeion deintyddol craidd yn cael eu darparu, a bydd y rhain yn cael eu hanfon at Hyfforddeion drwy e-bost cyn y dyddiad dechrau. Mae'n bwysig bod Hyfforddeion yn gwirio eu ffolderi e-bost 'junk' i gael y manylion mewngofnodi cychwynnol.
Darperir cymorth portffolio ar gyfer Hyfforddeion DCT yng Nghymru gan Rachel Morgan.
E-bost: Rachel.morgan30@wales.nhs.uk.
Mae angen e-bortffolio wedi'i gwblhau'n llawn er mwyn cwblhau'r rhaglen hyfforddi'n foddhaol, a bydd hyn yn cael ei wirio yn yr Adolygiad Interim o Ddatblygiad Cymhwysedd (IRCP) ym mis Chwefror/Mawrth a'r Adolygiad Terfynol o Ddatblygiad Cymhwysedd (FRCP) ym mis Gorffennaf.
**Darllenwch y canllawiau manwl i ddefnyddwyr a ddatblygwyd gan AaGIC i gael rhagor o wybodaeth am wahanol rannau o'r e-bortffolio, sut mae llwytho tystiolaeth i'r e-bortffolio a chysylltu'r dystiolaeth honno ag eitemau'r cwricwlwm**.
Y Cwricwlwm
Mae'r Cwricwlwm ar gyfer y Rhaglen Hyfforddiant Deintyddol Craidd ar gael ar wefan COPDEND (www.copdend.org.uk). Mae angen i chi edrych ar gwricwlwm Medi 2018, sef yr un presennol sydd ar waith ar gyfer hyfforddiant yn y DU.
Mae’r PEDWAR maes cymhwysedd fel a ganlyn:
O fewn y 4 maes hyn mae 18 canlyniad gorfodol:
Adolygiad Interim o Ddatblygiad Cymhwysedd (IRCP)
Mae IRCP yn digwydd ym mis Chwefror / Mawrth, cyn y newid mewn swyddi cylchdro. Bydd y Panel IRCP fel arfer yn cynnwys y canlynol:
Rhestr o ofynion (arferol) ar gyfer Canlyniad 1 yn IRCP (Sylwer y gallai hyn newid yn unol â chanllawiau a datblygiadau cenedlaethol):
Adolygiad Terfynol o Ddatblygiad Cymhwysedd (FRCP)
Bydd FRCP yn cael ei gynnal ym mis Gorffennaf pan fydd panel FRCP ffurfiol yn dod at ei gilydd i drafod datblygiad Hyfforddai a chytuno ar y canlyniad terfynol. Bydd y Panel yn cynnwys y canlynol:
Rhestr o ofynion (arferol) ar gyfer Canlyniad 1 yn FRCP (Sylwer y gallai hyn newid yn unol â chanllawiau a datblygiadau cenedlaethol):
Ar ôl cwblhau'r rhaglen hyfforddi, cyhoeddir Tystysgrif Cyrhaeddiad. Bydd y dystysgrif yn rhestru'r canlyniadau penodol y mae'r Hyfforddai wedi'u cyflawni, ac yn diffinio unrhyw feysydd i'w datblygu o ran canlyniadau a nodwyd yn y cytundeb dysgu, ond na chawsant eu cyflawni yn ystod y flwyddyn hyfforddi. Bydd canlyniadau a gynlluniwyd ond na chawsant eu cyflawni oherwydd diffyg cyfle yn hytrach na diffyg cymhwysedd hefyd yn cael eu nodi.
Cofnodion DPP
Ers mis Ionawr 2018, mae'n rhaid i bob deintydd gadw at gynllun “Datblygiad Proffesiynol Parhaus Uwch” (DPPU) y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC). Bydd angen i ddeintyddion gwblhau o leiaf 100 awr o DPP y gellir eu dilysu dros eu cylch pum mlynedd, yn ogystal â sicrhau eu bod yn datgan o leiaf 10 awr yn ystod unrhyw gyfnod o 2 flynedd. Mae’r manylion llawn ar gael ar wefan y GDC: www.gdc-uk.org
Mae gan Hyfforddeion DCT1 yng Nghymru amserlen diwrnodau astudio strwythuredig sy'n cynnwys 28 diwrnod drwy gydol y flwyddyn, yn ogystal â 2 ddiwrnod penodol o astudio hunangyfeiriedig.
Mae gan Hyfforddeion DCT2 a DCT3 amserlen diwrnodau astudio strwythuredig lai sy'n cynnwys 6 diwrnod drwy gydol y flwyddyn, ynghyd â 24 diwrnod astudio hunangyfeiriedig, lle gallant fynd ar drywydd dysgu a datblygu addas o'u dewis eu hunain.
O fis Medi 2023 ymlaen, bydd pob diwrnod astudio yn cael ei drefnu drwy system archebu cyrsiau ar-lein “Y Tŷ Dysgu”, a bydd tystysgrifau DPP ar gyfer pob sesiwn ar gael i'w lawrlwytho.
Ymholiadau am eich Swydd
Dylech ddarllen a llofnodi contract cyflogaeth cyn gynted â phosibl ac yn sicr o fewn 6 wythnos i ddechrau yn y swydd, a dylech gadw copi o'ch disgrifiad swydd hefyd.
Dylid cyfeirio ymholiadau personol fel contractau, tâl/bandio, treuliau teithio, disgrifiadau swydd, oriau gwaith, absenoldeb rhiant ac agweddau tebyg at y Bartneriaeth Cydwasanaethau (NWSSP) yn y lle cyntaf.
Os oes gennych ymholiadau am eich hyfforddiant neu faterion y mae angen eu dwyn i sylw AaGIC, cysylltwch yn gyntaf â Chyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi ar gyfer y cynllun neu'r Rheolwr Hyfforddiant Deintyddol Craidd.
Gofynion Cyffredinol ar gyfer pob Swydd Hyfforddiant Deintyddol Craidd
Rhaid i bob Hyfforddai Deintyddol Craidd wneud y canlynol:
Yr Hyn a Ddisgwylir gan Hyfforddeion
Mae eich goruchwyliwr addysgol wedi ymgymryd â hyfforddiant i sicrhau eich bod yn cael cymorth rhagorol yn ystod eich blwyddyn hyfforddi. Mewn ymateb i hyn, mae angen i chi wneud y canlynol:
Fel gweithiwr deintyddol proffesiynol cofrestredig, disgwylir i chi gynnal safonau'r GDC bob amser, nid yn unig wrth weithio yn eich uned/adran.
Iechyd Galwedigaethol
Rhaid i Hyfforddeion Deintyddol Craidd gwblhau gwiriad iechyd galwedigaethol cyn dechrau hyfforddi. Bydd y Bartneriaeth Cydwasanaethau (NWSSP) yn cysylltu â hyfforddeion ynghylch cwblhau gwiriadau cyn cyflogaeth ac archwiliadau iechyd galwedigaethol.
Rhaid i hyfforddeion ddarparu manylion sgrinio ac imiwneiddio iechyd perthnasol i NWSSP a dilyn protocolau perthnasol ar gyfer brechu, anafiadau a sgrinio iechyd galwedigaethol dilynol.
Rhaid i hyfforddeion hefyd gymryd rhagofalon priodol mewn perthynas â defnyddio offer miniog yn ddiogel, a defnyddio'r cyfarpar diogelu personol gofynnol ar gyfer ymarfer deintyddol diogel, ac ymarfer rheoli heintiau yn unol â chanllawiau lleol a chenedlaethol.
Rhaid i hyfforddeion roi gwybod i'w goruchwyliwr addysgol a chyfarwyddwr ei rhaglen hyfforddi am ddigwyddiadau neu faterion arwyddocaol sy'n ymwneud â'u hiechyd galwedigaethol.
Gall y Deon Deintyddol ôl-raddedig / Deon Cyswllt, Cyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi, Goruchwyliwr Addysgol, neu'r Bwrdd Iechyd Lleol sy'n lletya, ddewis eich cyfeirio at yr Adran Iechyd Galwedigaethol os oes materion iechyd penodol a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich blwyddyn hyfforddi. Fel arall, gall hyfforddeion hunangyfeirio.