Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cyfryngau cymdeithasol wedi gwreiddio yn gyflym yn ein bywydau bob dydd. Mae’n gyfle gwych i sefydliadau ac unigolion wrando a chael sgyrsiau proffesiynol a phersonol gyda phobl amrywiol, ond mae’n werth ystyried y pwyntiau allweddol a nodir isod.
Mae’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol yn rhoi’r arweiniad canlynol:
Mae safleoedd rhwydweithio cymdeithasol a chyfryngau cymdeithasol eraill yn ffyrdd effeithiol o gyfathrebu ag eraill ar lefel bersonol a phroffesiynol.
Mae cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys nifer o adnoddau ar y rhyngrwyd, gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, blogiau, fforymau rhyngrwyd, cymunedau cynnwys a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol fel Twitter, YouTube, Facebook, LinkedIn, GDPUK, Instagram a Pinterest.
Mae gwefannau rhwydweithio cymdeithasol proffesiynol sydd wedi’u hanelu’n benodol at weithwyr proffesiynol ym maes deintyddiaeth hefyd yn fathau o gyfryngau cymdeithasol sy’n berthnasol i’r canllaw hwn.
Mae 4.2.3 y Safonau ar gyfer y Tîm Deintyddol yn nodi:
“Ni ddylech rannu unrhyw wybodaeth na sylwadau am gleifion ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol na blogio. Os ydych chi’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol proffesiynol i drafod achosion dienw at ddibenion trafod arferion gorau, rhaid i chi fod yn ofalus nad oes modd adnabod y claf neu’r cleifion.”
Wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
Fel cofrestrai, mae gennych gyfrifoldeb i ymddwyn yn broffesiynol ac yn gyfrifol ar-lein ac all-lein.
Gall eich delwedd ar-lein effeithio ar eich bywyd proffesiynol ac ni ddylech rannu unrhyw wybodaeth, gan gynnwys ffotograffau a fideos, a allai ddwyn anfri ar y proffesiwn.
Mae’n bwysig cofio bod unrhyw beth rydych chi’n ei bostio ar gyfryngau cymdeithasol ar gael i’r cyhoedd a bod modd ei gopïo a’i ailddosbarthu’n hawdd heb i chi wybod. Dylech gymryd yn ganiataol y bydd popeth rydych chi’n ei rannu ar-lein yno yn barhaol.
Meddyliwch yn ofalus cyn derbyn ceisiadau ffrind gan gleifion.
Dylech adolygu eich mesurau preifatrwydd yn rheolaidd i sicrhau nad yw cynulleidfaoedd anfwriadol yn cael mynediad at wybodaeth, ond cofiwch nad yw hyd yn oed y mesurau preifatrwydd llymaf yn gwarantu y bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel ac y gallai unrhyw wybodaeth rydych chi’n ei rhannu gael ei gweld gan unrhyw un, gan gynnwys eich cleifion, cydweithwyr neu gyflogwr.
Cofiwch, hyd yn oed os nad ydych chi’n ystyried eich hun yn weithiwr proffesiynol ym maes deintyddiaeth, gallech ddal beryglu eich cofrestriad os ydych chi’n ymddwyn yn amhriodol wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.
Ni ddylech gael trafodaethau gyda’ch cleifion am eu triniaethau a’u gofal deintyddol ar gyfryngau cymdeithasol.
Er bod trafodaethau ar-lein am gleifion dienw ac arferion gorau yn gallu bod o fudd addysgol a phroffesiynol, dylech gofio nad yw rhannu gwybodaeth o dan enw defnyddiwr arall yn gwarantu eich cyfrinachedd. Ystyriwch sut mae eich sylwadau yn adlewyrchu arnoch chi, yn ogystal â sut y gallent effeithio ar ymddiriedaeth y cyhoedd yn y proffesiwn.