Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol Llawlyfr Deintydd Sylfaen

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) – cysylltiadau deintyddol

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
Tŷ Dysgu
Cefn Coed
Nantgarw
CF15 7QQ

HEIW.DFTenquiries@wales.nhs.uk

Deon Deintyddol Ôl-raddedig - Mrs Kirstie Moons

Kirstie.Moons@wales.nhs.uk

 

Deon Cyswllt Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol - David Hannington

David.Hannington3@wales.nhs.uk

 

Rheolwr Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol - Mrs Gabrielle Lloyd

Gabrielle.Lloyd@wales.nhs.uk

 

Rheolwr Cofnod Datblygiad Cymhwysedd- Ms Rachel Morgan

Rachel.Morgan30@wales.nhs.uk

 

Gweinyddwr Cymorth Hyfforddiant Deintyddol- Ms Emma Lloyd

emma.lloyd22@wales.nhs.uk 

Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol – Trosolwg

Annwyl Hyfforddai Deintyddol Sylfaenol (DFT),

Helo a chroeso i Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a’r cam nesaf yn eich gyrfa ddeintyddol. AaGIC yw’r unig Awdurdod Iechyd Arbennig sy’n rhan o GIG Cymru. Mae AaGIC yn eistedd ochr yn ochr ag Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd ac mae ganddo rôl arweiniol yn y gwaith o addysgu, hyfforddi, datblygu a siapio’r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru er mwyn sicrhau gofal o ansawdd uchel i bobl Cymru.

Cynhyrchwyd y llawlyfr hwn i roi gwybodaeth ddefnyddiol i chi. Gwnaed pob ymdrech i sicrhau ei gywirdeb, gan eich helpu i lywio drwy’r prosesau hyfforddi a gweinyddol amrywiol sy’n ganolog i’ch hyfforddiant a’ch datblygiad gyrfaol. Rwy’n gobeithio y bydd o ddefnydd i chi.

Daeth Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol yn orfodol ar 1 Hydref 1993, gan ei gwneud yn orfodol i holl raddedigion ysgolion deintyddol Prydain feddu ar dystysgrif sy'n dangos eu bod wedi cwblhau cwrs cymeradwy (neu brofiad sy'n cyfateb i'r cwrs hwnnw) cyn y gallent ddod yn Berfformwyr ar gontract gyda’r GIG. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol yng Nghymru.

I’r rhan fwyaf o ddeintyddion sydd newydd gymhwyso, Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol mewn ymarfer deintyddol cyffredinol yw’r cam nesaf ar ôl graddio. Mae Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol yn gyfnod perthnasol o gyflogaeth lle mae Deintydd Sylfaen (FD) yn cael ei anfon i bractis Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol (GDS). Bydd y Goruchwyliwr Addysgol (ES) yn darparu ystod eang o driniaethau a gofal deintyddol i alluogi’r FD i ennill profiad clinigol yn y gwaith. Mae’n ofynnol i Ddeintyddion Sylfaen fynychu diwrnodau astudio eu cynllun gyda’r nodau a’r amcanion o wella cymhwysedd clinigol a gweinyddol a hyrwyddo safonau uchel drwy hyfforddiant ôl-raddedig perthnasol. Cynhelir Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol mewn Practisau Hyfforddi cymeradwy. Mae ymarferwyr deintyddol cyffredinol profiadol, sydd â’r gallu i addysgu a helpu deintyddion newydd, yn cael eu cymeradwyo fel Goruchwylwyr Addysgol. O fewn y practis penodedig, mae’r FD yn cael mynediad at ddeintyddfa ag adnoddau llawn, nyrs ddeintyddol, a chleifion.  Mae’r Deintydd Sylfaenol (FD) newydd yn gweithio yn y practis am uchafswm o 35 awr yr wythnos. Rhaid i’r ES fod ar gael i ddarparu cymorth a chyngor, boed hynny ar ochr y gadair neu fel arall, a rhaid iddo ddarparu tiwtorial wythnosol sy’n para awr yn ystod oriau gwaith arferol.

Mae’r Practisau Hyfforddi wedi’u cysylltu â Chynllun Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol, sy’n cael ei reoli gan Gyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi (TPD). Fel arfer, mae Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol yn para am flwyddyn, ac yn ystod y cyfnod hwn mae’r FD yn mynychu Diwrnodau Astudio gorfodol yng nghanolfan ôl-raddedig y cynllun.

Mae gan bob FD e-bortffolio ar-lein, sy’n cael ei ddefnyddio fel cymhorthyn addysgol drwy gydol y flwyddyn. Mae’r e-bortffolio yn cynnwys gwahanol raglenni sy’n rhan o’r proffesiwn (DFT/DCT/WTDFT/PLVE). Yn rheolaidd, mae’r FD yn cofnodi cyflawniadau a phryderon ac yn disgrifio ac yn myfyrio ar ddigwyddiadau sydd wedi digwydd yn ddiweddar. Mae’r ES yn gweithio gyda’r FD a’r portffolio i gynhyrchu cynlluniau gweithredu ac asesiadau rheolaidd o ddatblygiad.

Mae cwblhau Hyfforddiant Sylfaen yn ‘foddhaol’ yn dibynnu nid yn unig ar y broses asesu, ond hefyd ar weithio yn eich Practis Hyfforddi am 12 mis; cynnal a diweddaru eich e-bortffolio; mynychu’r holl Ddiwrnodau Astudio; cwblhau’r cyflwyniadau achos drwy'r Rhwydwaith Dysgu ac Asesu Cymheiriaid Anhysbys (APLAN) a chwblhau gwaith prosiect Gwella Ansawdd yn ystod y flwyddyn.

Gobeithio y byddwch yn gwneud llawer o ffrindiau ac yn datblygu rhwydweithiau gwerthfawr yn ystod eich blwyddyn sylfaen ddeintyddol a fydd yn para am oes.

Os oes gennych chi unrhyw bryderon am y rhaglen neu unrhyw faterion cysylltiedig nad oes modd eu datrys yn lleol yn eich gweithle, rhowch wybod i ni: mae eich Cyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi, ES a staff AaGIC bob amser ar gael i’ch helpu.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddymuno pob llwyddiant i chi yn ystod eich hyfforddiant deintyddol arbenigol ac wrth ddatblygu a chyflawni eich dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Yn gywir

Kirstie Moons

Deon Deintyddol Ôl-raddedig

Addysg a Gwella Iechyd Cymru

 

Y Practis Hyfforddi

Mae eich Goruchwyliwr Addysgol (ES) a’ch Practis Hyfforddi wedi cael eu cymeradwyo fel amgylchedd addas ar gyfer Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol. Dylech gael cefnogaeth agos gan eich ES, cymorth gan weithwyr proffesiynol hyfforddedig ym maes gofal deintyddol, mynediad at gyfarpar digonol a deunyddiau addas, ac amrywiaeth eang o gleifion er mwyn ennill profiad clinigol.

Byddwch yn cael cyflwyniad cynhwysfawr i’r practis ac i’r gwaith clinigol. Bydd eich ES hefyd yn gweithio gyda chi i asesu eich profiad ac i helpu i nodi eich anghenion dysgu.

Drwy gydol y flwyddyn, byddwch yn cael tiwtorialau a chymorth gan eich ES. Bydd asesiadau hefyd yn cael eu cynnal o ran eich cynnydd a'ch anghenion dysgu. Bydd rhywfaint o’r gwaith hwn yn cael ei wneud gan aelodau eraill o dîm y practis.

Bydd gennych chi Bortffolio Datblygiad Proffesiynol Electronig (e-bortffolio) i’w ddefnyddio drwy gydol eich blwyddyn hyfforddi.

Os bydd unrhyw broblemau’n datblygu, siaradwch â’ch ES i gychwyn ac, os na fydd eich pryderon yn cael eu datrys, gellir eu huwchgyfeirio at eich Cyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddiant (TPD). Cofiwch fod eich TPD wedi cael ei benodi fel gweithiwr proffesiynol profiadol sy’n gallu delio ag ystod eang o faterion sy’n effeithio ar Ddeintyddion Sylfaen.

Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol - Cynnig Recriwtio Uwch Cymru (DFT WERO)

Mae DFT WERO yn fenter recriwtio leol newydd. Rydym yn cynnig pecyn cymorth gwell i hyfforddeion sy’n cwblhau hyfforddiant deintyddol sylfaenol (DFT) mewn practisiau deintyddol gwledig penodol yng Ngorllewin, Gogledd a Chanolbarth Cymru.

Os ydych chi’n hyfforddai DFT WERO byddwch eisoes yn ymwybodol o’r hyn y mae gennych hawl iddo:

Grant cymorth cefn gwlad £5,000

Ffioedd Arholiad MFDS/MJFD Rhan 1

(Ar ôl cwblhau a chyflwyno tystysgrif pasio)

£535
Cymorth Ariannol i Astudio Cyrsiau Paratoi MFDS £600

 

Nodwch y diagram canlynol, sy’n adlewyrchu manylion ad-dalu’r cynnig hwn:

Cyn dechrau blwyddyn Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol

Yn dilyn proses y cynllun dyrannu Recriwtio Cenedlaethol (NR)

  • Bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn darparu rhestr o’r practisau sy’n rhan o’r cynllun i FDs. Y nod yw rhoi digon o wybodaeth i FDs am bob practis er mwyn iddo/iddi allu gwneud dewis hyderus. Pan fydd pob FD ar y cynllun wedi nodi dewis, bydd y broses o ddyrannu yn digwydd ar sail safle NR yr unigolion.
  • Bydd TPD a Gweinyddwr AaGIC ar gyfer y cynllun rydych chi wedi cael eich dyrannu iddo yn cysylltu â chi gyda rhagor o arweiniad ar y trefniadau ar gyfer eich cynllun a rhaglen diwrnodau astudio’r cynllun ac ati.
  • Bydd AaGIC yn rheoli eich rhaglen hyfforddiant deintyddol sylfaenol dros y flwyddyn nesaf. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am eich addysg neu am yr hyfforddiant, cysylltwch â Chyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddiant (TPD) eich cynllun i gychwyn, neu dîm canolog AaGIC ar DFTenquiries@wales.nhs.uk. 
  • Bydd AaGIC yn cysylltu â chi dros y misoedd nesaf gyda’ch manylion mewngofnodi i gael mynediad at y llwyfannau canlynol:
      • E-Bortffolio Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol
      • Rhwydwaith Dysgu ac Asesu Cymheiriaid Anhysbys (APLAN)
      • Dental Juce
      • Llwyfan e-ddysgu'r GIG
      • ESR (lle byddwch yn derbyn ac yn gweld eich slipiau cyflog ac ati)
      • Assure Expenses (porth treuliau)
  • Mae’n bwysig eich bod yn gwneud cais i Restr Perfformwyr Deintyddol Cymru cyn gynted â phosibl, oherwydd gall hyn gymryd peth amser a gallai ohirio eich dyddiad dechrau. Y wefan sy’n cynnwys y ffurflen gais a’r nodiadau arweiniad yw pcgc.gig.cymru (cliciwch ar y ddolen Gwasanaeth Gofal Sylfaenol ac yna’r Gwasanaethau Deintyddol).
    Mae dwy ffurflen gais -
      • DPL1 ar gyfer y rheini nad ydynt wedi'u cynnwys ar restr ddeintyddol yn rhywle arall yn y DU ar hyn o bryd.
      • DPL4A ar gyfer y rheini sydd wedi’u cynnwys ar restr ddeintyddol yn rhywle arall yn y DU ar hyn o bryd.

SYLWER na fydd angen i FDs aros i gael eu dyrannu i bractis cyn cyflwyno Cais Rhestr Perfformwyr Deintyddol. Gallwch ychwanegu’r Bwrdd Iechyd yr ydych yn debygol o weithio ynddo ac, os oes angen, gellir ychwanegu / diwygio hwn a manylion y practis yn nes ymlaen. SYLWER HEFYD: Bydd y cais manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn cael ei wneud fel rhan o’r gwiriadau cyn cyflogi gyda’ch cyflogwr, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC).

  • Os oes angen fisa nawdd myfyriwr arnoch chi, bydd tîm noddi PCGC yn cysylltu â chi’n uniongyrchol i’ch arwain drwy’r broses.
  • Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) yw’r prif gyflogwr ar gyfer holl Hyfforddeion Deintyddol Sylfaenol Cymru. Mae hyn yn golygu mai PCGC fydd eich cyflogwr ar gyfer y flwyddyn Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol. Byddwch yn cael neges e-bost croeso a chwestiynau cyffredin gan PCGC yn cadarnhau manylion am Wiriadau Cyn-cyflogi, gan gynnwys cais Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), ESR a manylion treuliau, gwyliau blynyddol ac ati yn ystod yr wythnosau nesaf.
  • PCGC fydd eich pwynt cyswllt cyntaf os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch eich cyflogaeth dros y misoedd nesaf ac yn ystod y flwyddyn Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol NWSSPSLE.Dental@wales.nhs.uk.

Rydym wedi cynnwys copi o hysbysiad preifatrwydd DFT AaGIC er gwybodaeth i chi. Pwrpas yr hysbysiad yw rhoi gwybod i chi gyda phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol drwy gydol eich blwyddyn DFT.

Pethau i feddwl amdanynt cyn dechrau ar 1 Medi

  • Ystyriwch gysylltu ag FDs eraill sydd wedi’u dyrannu i’r cynllun i weld a allech chi fyw gyda’ch gilydd.
  • Meddyliwch sut byddwch chi’n teithio i’r practis a lleoliad y diwrnod astudio. Os nad ydych yn gyrru, efallai y bydd angen i chi edrych ar amserlenni bysiau/trenau neu ystyried pasio eich prawf gyrru.
  • Cyn archebu unrhyw wyliau, edrychwch ar raglen y diwrnodau astudio - bydd angen i chi osgoi'r dyddiadau hynny gan fod diwrnodau astudio yn orfodol.
  • Os byddwch chi’n newid eich cyfeiriad e-bost neu’ch rhif ffôn, rhannwch nhw gyda’ch practis, ES, TPD, tîm DFT AaGIC a PCGC.

Ar neu’n fuan ar ôl 1 Medi

  • Byddwch yn cael eich Contract Cyflogaeth a’ch Cytundeb Addysgol ar ddiwrnod cyntaf eich cyflogaeth. Darllenwch a llofnodwch y ddogfen hon a’i dychwelyd i PCGC, neu’n unol â’r cyfarwyddyd.

Gofynnir i chi lofnodi a dychwelyd un copi at y tîm SLE drwy e-bost neu drwy’r post:

nwsspSLE@dental.wales.nhs.uk

Gweithlu Meddygol
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
4-5 Cwrt Charnwood
Heol Billingsley
Parc Nantgarw
CF15 7QZ

  • Cyn i chi ddechrau gweld cleifion, mae’n bwysig eich bod yn mynd i’ch sesiwn ymsefydlu yn y gweithle, yn ymgyfarwyddo â pholisïau ymarfer ac yn ysgrifennu darn myfyriol ar hyn yn eich e-bortffolio.
  • Mynychu’r diwrnod astudio cyntaf (eich diwrnod ymsefydlu).
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael apwyntiadau wythnosol i weld eich ES ar gyfer sesiynau tiwtorial cyn gynted â phosibl. Byddai’n syniad da i chi nodi rhai pynciau yr hoffech eu trafod gyda’ch ES yn ystod yr wythnosau cynnar. Mae’n bwysig eich bod yn paratoi ar gyfer y tiwtorialau hyn er mwyn sicrhau eich bod yn cael y budd mwyaf ohonynt.
  • Ymgyfarwyddwch â’r cwricwlwm Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol, yr e-bortffolio ac asesiadau.
  • Meddyliwch am gwblhau’r asesiadau yn y gweithle.
  • Archebwch wyliau blynyddol gyda’ch practis cyn gynted â phosibl – rhowch o leiaf 6 wythnos o rybudd a chofiwch fod yn rhaid i chi osgoi diwrnodau astudio.
  • Gwnewch yn siŵr bod gan AaGIC a Gweinyddwr eich Cynllun eich manylion cyswllt diweddaraf.
  • Rhowch wybod i’r partïon perthnasol am unrhyw gyflyrau meddygol neu iechyd perthnasol y gallai fod angen cymorth arnoch gyda nhw at ddiben gweithio a hyfforddi.
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych chi indemniad digonol yn ei le. Yn ystod eich cyfnod sylfaen, byddwch yn cael eich cyflogi gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre o dan nawdd Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Mae’r Ymddiriedolaeth yn cymhwyso Indemniad y GIG i’w gweithgareddau craidd.

Os byddwch yn cael lle mewn bwrdd iechyd, bydd y sefydliad hwn hefyd yn cymhwyso Indemniad y GIG i’ch gweithgareddau GIG, sy’n darparu indemniad ar gyfer unrhyw hawliad sifil sy’n deillio o weithred esgeulus, hepgoriad, neu dorri dyletswydd statudol yn ystod eich dyletswyddau.

Ar hyn o bryd nid oes cynllun wedi’i gefnogi gan y wladwriaeth ar gyfer indemniad ym maes deintyddiaeth gymunedol ac mae’n ofynnol i bob gweithiwr deintyddol cymunedol yng Nghymru gael a chynnal eu gwarchodaeth bersonol eu hunain gan ddarparwr indemniad preifat neu sefydliad amddiffyn meddygol. Bydd disgwyl i chi ddarparu tystiolaeth o’ch yswiriant indemniad i PCGC, AaGIC a’r practis deintyddol rydych chi’n gweithio ynddo.

Trefniant Cyflogwr Arweiniol Sengl (SLE)

Mae gweithio fel Hyfforddai Deintyddol Sylfaenol (DFT) yng Nghymru yn golygu y byddwch yn dilyn model cyflogwr arweiniol sengl (SLE).

Mae’r model SLE yng Nghymru yn fodel cyflogaeth cydweithredol, gyda chyfrifoldebau’r cyflogwr traddodiadol yn cael eu rhannu rhwng tri phrif randdeiliad, sef:

  • Cyflogwr Arweiniol Sengl - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC)

Cyfrifoldeb cyflogaeth cyffredinol, gan gynnwys contractau cyflogaeth, gwiriadau cyflogaeth, gwiriadau DBS, tâl, cyfyngiadau/gwaharddiadau a materion disgyblu. Mae’r SLE ei hun yn cynnig un pwynt cyswllt sy’n cydlynu gyda’r holl randdeiliaid.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â’ch cyflogaeth, e.e. gwiriadau cyn cyflogi, cyflog ac ati, cysylltwch â NWSSPSLE.Dental@wales.nhs.uk.

  • Sefydliad sy’n Lletya

Yn darparu rheolaeth a goruchwyliaeth hyfforddiant o ddydd i ddydd, gan oruchwylwyr clinigol ac addysgol.

  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Sicrhau bod addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel yn cael eu darparu sy’n cynnwys recriwtio i raglenni hyfforddi, rhaglenni cymorth ac asesu, datblygu cyfadrannau a monitro ansawdd lleoliadau. Prif swyddogaeth y tri rhanddeiliad yw sicrhau bod yr hyfforddeion yn cwblhau eu hyfforddiant yn foddhaol a thrwy wneud hynny’n darparu gwasanaeth rhagorol i’r sector iechyd a gofal cymdeithasol lleol yng Nghymru. Ar gyfer unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â’ch blwyddyn Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol, cysylltwch â’ch Cyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi yn y lle cyntaf neu â HEIW.DFTenquiries@wales.nhs.uk.

Manteision Cyflogwr Arweiniol Sengl (SLE) i Ddeintyddion Sylfaen yw y bydd gan yr hyfforddai, ar gyfer y cynllun hyfforddi cyfan, un cyflogwr. Rhagwelir y bydd y model yn lleihau biwrocratiaeth, yn darparu mwy o degwch, ac yn gwella’r profiad gwaith i hyfforddeion.

Dyma rai pethau i’w hystyried mewn perthynas â’r trefniant SLE:

 

Cynlluniau Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol Cymru

Mae gan bob Cynllun Gyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi (TPD) a Gweinyddwr Cynllun DFT a bydd yna ganolfan leol lle cynhelir diwrnodau astudio.

Diwrnodau Astudio

Mae’r rhaglen Diwrnodau Astudio yn cael ei threfnu ar wahân ar gyfer pob cynllun gan y TPD ac mae’n cynnwys o leiaf 30 diwrnod (fel arfer lleiafswm o 28 diwrnod gorfodol a 2 ddiwrnod hunan-gyfeiriedig).

Mae gan y rhaglen diwrnodau astudio ddull cyfunol ar hyn o bryd, gyda rhai cyrsiau’n cael eu darparu wyneb yn wyneb, fel sesiynau ymarferol a sesiynau ar-lein. O ran y sesiynau ar-lein, mae’n hanfodol bod gennych chi’r offer cywir, a’ch bod yn ymdrin â’r diwrnodau hyn mewn ffordd broffesiynol, fel y byddech chi os byddech chi’n mynd i sesiwn wyneb yn wyneb:

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio dyfais academaidd i gyrchu’r diwrnodau astudio, gliniadur yn ddelfrydol. Ni fydd defnyddio ffôn yn caniatáu i chi weld cyflwyniadau yn y manylder gofynnol.
  • Gwnewch yn siŵr bod gan eich dyfais gamera sy’n gweithio. RHAID troi camerâu ymlaen yn ystod y sesiwn astudio, oni bai fod y siaradwr yn rhoi cyfarwyddyd i'w diffodd.
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych chi gysylltiad rhyngrwyd da. Os yw’r Wi-Fi yn wael, trefnwch gysylltiad ether-rwyd â’ch llwybrydd.
  • Defnyddiwch le addas er mwyn gallu canolbwyntio.
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych chi ficroffon, a’i fod wedi’i alluogi i ganiatáu i chi gymryd rhan yn y trafodaethau gofynnol.

Mae eich presenoldeb ym mhob Diwrnod Astudio yn orfodol. Mae rhai diwrnodau’n cael eu cynnal ar y cyd â chynlluniau eraill, rhai diwrnodau’n cynnwys ES ac FD, ac mae rhai diwrnodau’n cael eu cynnal mewn lleoliadau allanol.

Mae’r cynnwys wedi’i fapio i’r cwricwlwm Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol a’i nod yw ymdrin â’r meysydd cwricwlwm na ellir eu cynnwys yn hawdd yn amgylchedd y practis hyfforddi.

Amlinellir amseroedd a lleoliadau’r sesiynau yn rhaglen cwrs eich Cynllun.

Mewn achos o absenoldeb na ellir ei osgoi (salwch / damwain), cysylltwch â gweinyddwr y cynllun (neu swyddog cyfatebol) ar unwaith, naill ai drwy e-bost neu dros y ffôn. Dyma’r unig reswm derbyniol dros beidio â bod yn bresennol. Rhaid trefnu gwyliau, digwyddiadau cymdeithasol ac ati y tu allan i raglen y diwrnodau astudio.

Trafodwch unrhyw ddiffyg presenoldeb gyda’ch TPD. Bydd eich TPD yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais am absenoldeb o ddiwrnod astudio nad oes modd ei osgoi cyn i chi golli diwrnod astudio a chofnodi’n ffurfiol yn eich e-bortffolio sut yr eir i’r afael â’r Diwrnod Astudio a gollwyd.

Mae paratoi ar gyfer pob Diwrnod Astudio yn hanfodol er mwyn i chi allu cymryd rhan lawn, felly dylech edrych ar raglen y Cynllun ymlaen llaw.

Dylid trafod y rhaglen ar gyfer yr wythnos ganlynol yn ystod eich tiwtorial ymarferol. Mae hefyd yn ddefnyddiol ystyried y pynciau yr ymdriniwyd â hwy yn yr wythnos flaenorol.

Nodir yr amser dechrau ar gyfer pob diwrnod astudio yn rhaglen y cynllun. Mae’n werth cofio mai dyma pryd y bydd y sesiwn gyntaf yn dechrau ac y bydd disgwyl i chi fod yn bresennol cyn yr amser dechrau.

Efallai y bydd cyrraedd sesiwn yn hwyr yn golygu eich bod yn cael eich cofnodi yn “absennol” o’r sesiwn. Yn unol â hynny, disgwylir safonau proffesiynol o ran gwisg mewn Diwrnodau Astudio: nid yw jîns blêr, trowsus byr, crysau-t ac esgidiau ymarfer corff yn briodol.

Bydd cofnod presenoldeb yn cael ei gadw. Gallai absenoldeb eich atal rhag cael ardystiad eich bod wedi cwblhau’r cwrs.

Cynrychiolwyr Hyfforddeion

Mae AaGIC yn awyddus i hwyluso Fforymau i Hyfforddeion. Y nod yw gwella ac annog cyfathrebu gyda hyfforddeion ledled Cymru. Mae’n gyfle i hyfforddeion godi unrhyw faterion sydd ganddynt o ran eu hyfforddiant a rhoi adborth er mwyn i ni allu dysgu sut i wella ein rhaglenni hyfforddi lle bynnag y bo modd.

Bob blwyddyn rydym yn recriwtio cynrychiolydd o bob cynllun ac o bob rhaglen hyfforddi, a fydd yn cysylltu â’u cydweithwyr yn y rhaglen Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol.

Bydd proses benodi’n cael ei chynnal ym mis Medi i nodi’r cynrychiolydd DFT ar gyfer y flwyddyn hyfforddi tan ddiwedd mis Awst. Bydd AaGIC yn cysylltu â chi ym mis Medi gyda rhagor o wybodaeth am y rôl hon a’r broses benodi.

Disgwyliadau a chyfrifoldebau’r cynrychiolydd hyfforddeion

  • Mynychu Pwyllgor Hyfforddeion Deintyddol (DTC) AaGIC a mynychu cyfarfodydd dair gwaith y flwyddyn (sylwch y bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithiol yn ystod amser cinio neu gyda’r nos er mwyn lleihau’r effaith ar amser clinigol hyfforddeion).
  • Trefnu a chadeirio Fforymau Hyfforddeion rhithiol bob tymor (sesiynau galw heibio) gyda charfan y cynllun i gasglu adborth gan gyd-hyfforddeion ar unrhyw faterion yr hoffent dynnu sylw atynt yng nghyfarfod Pwyllgor Hyfforddeion Deintyddol AaGIC. Dylai’r sesiynau galw heibio hyn gael eu cynnal yn rhithiol tua phythefnos cyn cyfarfod y DTC yn ystod y tymor.
  • Dylai cynrychiolwyr rannu unrhyw bwyntiau perthnasol a godir yng nghyfarfod y DTC gyda’u cyd-hyfforddeion yn brydlon.
  • Efallai y bydd cynrychiolwyr hefyd yn cael eu gwahodd i fynychu digwyddiadau ledled y DU, wyneb yn wyneb ac ar y cyd â COPDEND, yn ogystal â digwyddiadau AaGIC ar gyfer holl hyfforddeion gofal iechyd proffesiynol.

Mae hwn yn gyfle gwych i wella ac adeiladu eich portffolio, ennill profiad o fynychu pwyllgorau a datblygu sgiliau rheoli ac arwain sy'n bwysig o ran gallu eu harddangos wrth ymgeisio am swyddi yn y dyfodol.

System Rheoli Dysgu a Gwerthuso Diwrnodau Astudio

Mae ein System Rheoli Dysgu (LMS) yn llwyfan ar gyfer y proffesiwn gofal iechyd ledled Cymru. Bydd yr LMS nid yn unig yn ofod i weld eich diwrnodau astudio DFT ar-lein ac wyneb yn wyneb, ond bydd hefyd yn darparu deunydd dysgu i chi gael mynediad ato yn eich amser eich hun.

Gan eich bod ar Raglen Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol, byddwch eisoes wedi cofrestru ar y safle a byddwn wedi’ch ychwanegu at ffolder cynnwys sy’n berthnasol i’ch cynllun. O ganlyniad, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth arall ar hyn o bryd. Ar 1 Medi, pan fyddwch yn mewngofnodi i'r safle, byddwch yn gallu gweld y digwyddiadau a'r deunyddiau astudio perthnasol ar gyfer eich cynllun. Ar ôl i ddiwrnod astudio gael ei gyflwyno, bydd angen i chi fewngofnodi i'r safle a gwerthuso'r sesiwn. Bydd hyn wedyn yn cynhyrchu tystysgrif y bydd angen i chi ei llwytho arno i’ch e-bortffolio.

Wrth i chi symud drwy eich llwybr gyrfa yng Nghymru, gallwch ddiwygio eich proffesiwn a fydd yn eich galluogi i gofrestru ar gyfer cyrsiau DPP a chael gafael ar ddeunyddiau ac adnoddau eraill, ond am nawr dyma sut bydd yr LMS yn alinio â DFT.

Gallwch fynd i wefan LMS yn https://ytydysgu.heiw.wales.

Chynrychiolwyr Hyfforddeion a Fforymau Hyfforddeion

Mae fforymau hyfforddeion yn cael eu sefydlu bob blwyddyn hyfforddi i wella ac annog cyfathrebu gyda hyfforddeion ledled Cymru. Trefnir fforymau hyfforddeion oddeutu bob yn ail fis i alluogi hyfforddeion i godi unrhyw faterion sydd ganddynt o ran eu hyfforddiant a rhoi adborth er mwyn i ni allu dysgu sut i wella ein rhaglenni hyfforddi lle bynnag y bo modd.

Ar ddechrau pob blwyddyn hyfforddi, bydd eich TPD yn eich annog i wirfoddoli fel cynrychiolydd cynllun. Mae hwn yn gyfle gwych i ddatblygu eich portffolio a chael profiad o arwain a rheoli ar raddfa genedlaethol.

Bydd disgwyl i gynrychiolwyr cynllun DFT wneud y canlynol:

  • Mynychu Pwyllgor Hyfforddeion Deintyddol (DTC) AaGIC a mynychu cyfarfodydd dair gwaith y flwyddyn (sylwch y bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithiol yn ystod amser cinio neu gyda’r nos er mwyn lleihau’r effaith ar amser clinigol hyfforddeion).
  • Trefnu a chadeirio Fforymau Hyfforddeion rhithiol bob tymor (sesiynau galw heibio) gyda charfan y cynllun i gasglu adborth gan gyd-hyfforddeion ar unrhyw faterion yr hoffent dynnu sylw atynt yng nghyfarfod Pwyllgor Hyfforddeion Deintyddol AaGIC. Dylai’r sesiynau galw heibio hyn gael eu cynnal yn rhithiol tua phythefnos cyn cyfarfod y DTC yn ystod y tymor.
  • Nodwch, os na fydd y cynrychiolydd yn gallu bod yn bresennol mewn cyfarfod (oni bai bod amgylchiadau heb eu rhagweld) mae’n ofynnol iddo drefnu i gydweithiwr (ar lefel hyfforddiant tebyg) fynychu ar ei ran. Rhaid derbyn ymddiheuriadau wythnos cyn cyfarfodydd DTC.
  • Dylai cynrychiolwyr rannu unrhyw bwyntiau perthnasol a godir yng nghyfarfod y DTC gyda’u cyd-hyfforddeion yn brydlon.
  • Efallai y bydd cynrychiolwyr hefyd yn cael eu gwahodd i fynychu digwyddiadau ledled y DU, wyneb yn wyneb ac ar y cyd â COPDEND, yn ogystal â digwyddiadau AaGIC ar gyfer holl hyfforddeion gofal iechyd proffesiynol.
  • Bydd cynrychiolwyr yn eu swyddi tan ddiwedd mis Awst.

Bydd tystysgrif cyfranogiad yn cael ei dyfarnu i’r sawl sy’n ymgymryd â’r rôl ac sy’n bresennol ym mhob cyfarfod.

Codau Gwisg

Mae’n gyfrifoldeb ar bob deintydd o hyd i sicrhau bod eu hedrychiad yn gydnaws â’u rôl broffesiynol ac nad yw’n amharu mewn unrhyw fodd ar gyflawni rolau a chyfrifoldebau deintydd yn effeithiol, gan gynnwys cyfathrebu â chleifion, perthnasau, gofalwyr a staff eraill.

Mae canllawiau ar gael gan NHS Professionals ar godau gwisg ar draws y GIG. Mae’n tynnu sylw at y ffaith bod rhesymau dilys dros orfodi cod gwisg, gan gynnwys ystyriaethau Iechyd a Diogelwch, ymarferoldeb, llywodraethu a phroffesiynoldeb.

Cynghorir yr hyfforddeion i ddilyn codau gwisg dilys y practis cyflogi. Gall hyn gynnwys cynnal safonau priodol o ran ymddangosiad, gwisg a hylendid personol (er enghraifft, osgoi clustdlysau mawr, dangos croen yn amhriodol, esgidiau ansefydlog ac ati).

Mae gwahaniaethu rhwng codau gwisg dynion a merched yn gyfreithlon, o ystyried cymhwyso’r meini prawf a restrir uchod.

Dylid diosg dillad a allai amharu ar gyfathrebu clinigol, ac asesu, ar adegau priodol.

Cyfryngau Cymdeithasol

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cyfryngau cymdeithasol wedi gwreiddio yn gyflym yn ein bywydau bob dydd. Mae’n gyfle gwych i sefydliadau ac unigolion wrando a chael sgyrsiau proffesiynol a phersonol gyda phobl amrywiol, ond mae’n werth ystyried y pwyntiau allweddol a nodir isod.

  • Mae cyfryngau cymdeithasol yn gallu cymylu’r ffin rhwng bywyd cyhoeddus a bywyd proffesiynol unigolyn.
  • Dylai deintyddion roi mesurau preifatrwydd ceidwadol ar waith – cofiwch na ellir diogelu pob gwybodaeth ar y rhyngrwyd.
  • Mae’r ddyletswydd foesegol a chyfreithiol i ddiogelu cyfrinachedd cleifion yr un mor berthnasol ar y rhyngrwyd ag i gyfryngau eraill.
  • Byddai’n amhriodol rhannu sylwadau anffurfiol, personol neu ddifrïol am gleifion neu gydweithwyr.
  • Ni ddylai deintyddion dderbyn ceisiadau ffrind gan gleifion presennol neu gyn-gleifion.
  • Gall y gyfraith enllib fod yn berthnasol i unrhyw sylwadau a wneir ar y rhyngrwyd, naill ai’n bersonol neu’n broffesiynol.
  • Dylai deintyddion fod yn ymwybodol o’u delwedd ar-lein a sut y gallai effeithio ar eu statws proffesiynol.

Mae’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol yn rhoi’r arweiniad canlynol:

Mae safleoedd rhwydweithio cymdeithasol a chyfryngau cymdeithasol eraill yn ffyrdd effeithiol o gyfathrebu ag eraill ar lefel bersonol a phroffesiynol.

Mae cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys nifer o adnoddau ar y rhyngrwyd, gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, blogiau, fforymau rhyngrwyd, cymunedau cynnwys a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol fel Twitter, YouTube, Facebook, LinkedIn, GDPUK, Instagram a Pinterest.

Mae gwefannau rhwydweithio cymdeithasol proffesiynol sydd wedi’u hanelu’n benodol at weithwyr proffesiynol ym maes deintyddiaeth hefyd yn fathau o gyfryngau cymdeithasol sy’n berthnasol i’r canllaw hwn.

Mae 4.2.3 y Safonau ar gyfer y Tîm Deintyddol yn nodi:

“Ni ddylech rannu unrhyw wybodaeth na sylwadau am gleifion ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol na blogio. Os ydych chi’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol proffesiynol i drafod achosion dienw at ddibenion trafod arferion gorau, rhaid i chi fod yn ofalus nad oes modd adnabod y claf neu’r cleifion.”

Wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • Cynnal a diogelu gwybodaeth cleifion drwy beidio â chyhoeddi unrhyw wybodaeth a allai ddatgelu pwy ydynt ar gyfryngau cymdeithasol heb eu caniatâd penodol.
  • Cynnal ffiniau priodol yn y berthynas sydd gennych â chleifion ac aelodau eraill o’r tîm deintyddol.
  • Cydymffurfio ag unrhyw bolisi rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol a nodir gan eich cyflogwr.

Fel cofrestrai, mae gennych gyfrifoldeb i ymddwyn yn broffesiynol ac yn gyfrifol ar-lein ac all-lein.

Gall eich delwedd ar-lein effeithio ar eich bywyd proffesiynol ac ni ddylech rannu unrhyw wybodaeth, gan gynnwys ffotograffau a fideos, a allai ddwyn anfri ar y proffesiwn.

Mae’n bwysig cofio bod unrhyw beth rydych chi’n ei bostio ar gyfryngau cymdeithasol ar gael i’r cyhoedd a bod modd ei gopïo a’i ailddosbarthu’n hawdd heb i chi wybod. Dylech gymryd yn ganiataol y bydd popeth rydych chi’n ei rannu ar-lein yno yn barhaol.

Meddyliwch yn ofalus cyn derbyn ceisiadau ffrind gan gleifion.

Dylech adolygu eich mesurau preifatrwydd yn rheolaidd i sicrhau nad yw cynulleidfaoedd anfwriadol yn cael mynediad at wybodaeth, ond cofiwch nad yw hyd yn oed y mesurau preifatrwydd llymaf yn gwarantu y bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel ac y gallai unrhyw wybodaeth rydych chi’n ei rhannu gael ei gweld gan unrhyw un, gan gynnwys eich cleifion, cydweithwyr neu gyflogwr.

Cofiwch, hyd yn oed os nad ydych chi’n ystyried eich hun yn weithiwr proffesiynol ym maes deintyddiaeth, gallech ddal beryglu eich cofrestriad os ydych chi’n ymddwyn yn amhriodol wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.

Ni ddylech gael trafodaethau gyda’ch cleifion am eu triniaethau a’u gofal deintyddol ar gyfryngau cymdeithasol.

Er bod trafodaethau ar-lein am gleifion dienw ac arferion gorau yn gallu bod o fudd addysgol a phroffesiynol, dylech gofio nad yw rhannu gwybodaeth o dan enw defnyddiwr arall yn gwarantu eich cyfrinachedd. Ystyriwch sut mae eich sylwadau yn adlewyrchu arnoch chi, yn ogystal â sut y gallent effeithio ar ymddiriedaeth y cyhoedd yn y proffesiwn.

Cymorth

Yn ystod y flwyddyn Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol bydd llawer o gyfleoedd i heriau godi.

Yn eich practis hyfforddi, eich ES fydd y brif ffynhonnell gymorth ar gyfer datrys problemau. Yn ystod oriau gwaith arferol, gallwch gysylltu â’ch ES am gymorth, neu gallwch godi mater sy’n peri pryder yn ystod tiwtorial.

Weithiau, y siaradwr yn y Diwrnod Astudio fydd yr arbenigwr a fydd yn gallu ateb y cwestiwn anodd. Argymhellir eich bod yn dod â phroblemau clinigol dienw a allai fod angen eu rhannu i’r diwrnodau astudio.

Mae eich TPD ar gael bob amser i’ch helpu gydag amrywiaeth eang o broblemau clinigol, proffesiynol neu bersonol. Does dim rhaid i chi aros tan gyfarfod Diwrnod Astudio; cysylltwch â TPD eich cynllun cyn gynted â phosibl er mwyn datrys problem yn gynnar.

Mae’r Cynllun Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol hefyd yn llwyfan defnyddiol ar gyfer datrys problemau. Mae cyfleoedd i drafod mewn grŵp yn digwydd ym mhob sesiwn bron yn ystod y Diwrnod Astudio. Mae rhannu anawsterau, problemau neu bryderon gydag aelodau eraill y grŵp yn aml yn dod ag enghreifftiau i’r amlwg o’r un broblem a brofwyd gan eraill, ac yn aml gellir dod o hyd i atebion a’u trafod. Fel gweithwyr proffesiynol, bydd pob aelod o’r grŵp yn parchu’r rheol arferol o gyfrinachedd y tu allan i’r sesiynau.

Cwynion

Fel aelod o staff sy’n gweithio yn y practis, dylid codi unrhyw gwynion gan ddilyn trefn gwyno’r practis.

Os oes gennych chi gŵyn am y rhaglen hyfforddi, anfonwch hi’n uniongyrchol at HEIW.DFTenquiries@wales.nhs.uk

Amddiffyn plant ac oedolion agored i niwed

Rhaid i ddeintyddion bob amser roi diogelwch y claf yn gyntaf a gweithredu’n brydlon os yw cleifion neu gydweithwyr mewn perygl a chymryd camau i’w hamddiffyn.

Dylai deintyddion gymryd camau priodol os oes ganddynt bryderon am y posibilrwydd o gam-drin plant neu oedolion agored i niwed.

Rhaid i ddeintyddion fod yn gyfarwydd â gweithdrefnau ysgrifenedig y practis ar gyfer codi pryderon a bod yn gyfarwydd â gweithdrefnau lleol ar gyfer amddiffyn plant ac oedolion agored i niwed a gwybod at bwy i droi am gyngor.

Rhaid i ES a FD roi gwybod i’r TPD am unrhyw ddigwyddiadau arwyddocaol yn y practis sy’n ymwneud â’r hyfforddai a datgan unrhyw ymchwiliadau cyfredol gan y GDC, neu unrhyw ymchwiliad arall sy’n gysylltiedig â’u gwaith fel deintydd.

Codi Llais heb Ofn a Codi pryderon

Codi Llais heb Ofn – Fframwaith ar gyfer GIG Cymru

 

  • Mae'r Fframwaith yn nodi cyfrifoldebau sefydliad i greu diwylliant lle cefnogir 'Codi Llais’ (y cyfeirir ato hefyd fel 'codi pryder') mewn amgylchedd diogel.
  • I sicrhau bod gan bob unigolyn lais,  maent yn cael eu gwrando arno, ac yn derbyn ymateb amserol a phriodol.
  • Mae cymorth ar gael trwy ystod o sianeli, gan gynnwys y Fforwm Hyfforddeion, canllawiau TPD uniongyrchol, a Ffurflenni Adborth Interim a Diwedd Blwyddyn - i gyd wedi'u cynllunio i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed a'ch profiad yn cael ei gefnogi.

 

Codi Llais heb Ofn – beth sy'n digwydd ar ôl i ni dderbyn eich adborth

Unwaith y byddwn yn derbyn eich adborth, bydd y camau nesaf yn dibynnu ar natur a chymhlethdod y pryderon a godwyd. Fel canllaw cyffredinol, mae'r broses fel a ganlyn:

Adolygiad Cychwynnol
Mae adborth yn cael ei adolygu gan y TPD, y Rheolwr DFT, a'r Arweinydd Ansawdd.

Ymgysylltu a’r Practis Cynnal
Gellir mynd i'r afael â phryderon cychwynnol trwy drafodaeth anffurfiol gyda Chyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi (TPD) a'r Goruchwyliwr Addysgol (ES) / Practis Cynnal . Fodd bynnag, os yw'r mater yn fwy difrifol neu os oes angen archwilio ymhellach, trefnir cyfarfod ffurfiol gyda'r practis cynnal i archwilio'r materion yn fanylach.

Argymhellion a Chamau Gweithredu
Yn seiliedig ar y drafodaeth, gwneir argymhellion, a chytunir ar gamau penodol - gan gynnwys dyddiadau cau clir.

Cyfarfodydd Dilynol
Bydd cyfarfodydd yn cael eu trefnu i fonitro cynnydd a sicrhau bod camau y cytunwyd arnynt yn cael eu gweithredu'n effeithiol. Os nad oes digon o welliannau yn cael eu harsylwi, bydd y mater yn cael ei gyfeirio i'r Deon Cyswllt ar gyfer adolygiad a gweithredu pellach.

Cofiwch, mae pob pryder yn cael ei drin gyda'r gofal, disgresiwn a’r proffesiynoldeb mwyaf. Rydym yn ymdrin â phob mater yn gyfrinachol ac yn sicrhau dilyniant priodol i gefnogi datrysiad teg ac adeiladol.

Mae codi eich llais yn bwysig i AaGIC. Os nad ydym yn ymwybodol o'ch pryderon, ni allwn gymryd camau i'ch cefnogi neu wella eich profiad. Mae eich adborth yn ein helpu i wneud eleni mor gadarnhaol a gwerth chweil â phosibl.

 

Codi pryderon

Mae’r GDC yn nodi:

Mae gan bob gweithiwr deintyddol proffesiynol gyfrifoldeb proffesiynol i roi gwybod os ydynt yn dyst i driniaeth neu ymddygiad a all beri risg i gleifion neu gydweithwyr.

Un elfen allweddol yw sicrhau bod diwylliant cyffredin o fod yn agored ac yn onest. Dylai codi pryder gael ei groesawu, yn hytrach na’i oddef. Mae’n hanfodol gwrando ar staff sy’n mynegi pryder a gweithredu ar y wybodaeth. Mae’r math hwn o amgylchedd o fudd i gleifion, cydweithwyr a’r gwasanaeth iechyd ehangach.

Mae Egwyddor 8 y Safonau ar gyfer y tîm deintyddol yn rhoi sylw i godi pryder, gan ddarparu gwybodaeth am y canlynol:

  • Sut mae mynd i’r afael â’r mater hwn.
  • Beth i’w ddisgwyl gan gyflogwyr yn y sector.
  • Pryd i gysylltu â ni.

I gael rhagor o wybodaeth am godi pryder, ewch i: https://www.gdc-uk.org/raising-concerns/raising-concerns-about-dental-treatment/how-do-i-raise-a-concern-about-a-dental-professional/advice-for-professionals-raising-a-concern

Rhaid i chi godi pryder hyd yn oed os nad ydych yn gallu rheoli neu ddylanwadu ar eich amgylchedd gwaith. Mae eich dyletswydd i godi pryderon yn drech nag unrhyw deyrngarwch neu bryderon personol a phroffesiynol sydd gennych (er enghraifft, ymddangos yn anffyddlon neu gael eich trin yn wahanol gan eich cydweithwyr neu’ch rheolwyr).

Ni ddylech ymrwymo i unrhyw gontract neu gytundeb gyda’ch cyflogwr neu gorff contractio sy’n cynnwys ‘cymal cau ceg’ a fyddai’n eich atal rhag codi pryderon am ddiogelwch cleifion neu gyfyngu ar yr hyn y gallech ei ddweud wrth godi pryder.

Cofiwch fod eich TPD a’ch Deon Cyswllt DFT ar gael i siarad â chi am unrhyw bryderon yr hoffech eu trafod.

Ar ôl cwblhau'r DFT

Os ydych chi’n bwriadu parhau i weithio yn y GDS yng Nghymru, yna ychydig wythnosau cyn y disgwylir i chi gwblhau eich blwyddyn hyfforddi, anfonir ffurflen Newid Statws atoch i chi ei llenwi.

Dylech ddychwelyd y ffurflen wedi’i llenwi ynghyd â chadarnhad o’ch Rhif Hyfforddiant Galwedigaethol (VT). Ar ôl ei derbyn, bydd eich statws yn cael ei newid o ‘Deintydd Sylfaen’ i ‘Perfformiwr’, a byddwch yn cael eich cynnwys yn llawn ar y Rhestr Perfformwyr Deintyddol yng Nghymru.

Gwneud cais am le ar Restr Perfformwyr Lloegr fel FD cyfredol yng Nghymru

Os ydych chi’n bwriadu gweithio yn Lloegr ar ôl DFT, fel rhan o’ch cais am le ar Restr Perfformwyr Lloegr, bydd gofyn i chi ddangos eich bod wedi cwblhau DFT yn llwyddiannus drwy ddarparu eich rhif VT – bydd rhifau VT yn cael eu cyhoeddi yn nhrydedd wythnos mis Awst (byddwch yn cael e-bost gan AaGIC gyda’ch tystysgrif VT).

Cysylltwch â rhestr perfformwyr deintyddol Lloegr i gael gwybodaeth berthnasol https://pcse.england.nhs.uk/services/performers-lists/dental-performers-list-for-england/

Yr e-bortffolio

Fel rhan o’ch Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol, bydd angen i chi gymryd rhan weithredol yn y broses o gwblhau portffolio electronig. Dyma eich cofnod o gynnydd drwy Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol a bydd yn cael ei ddefnyddio gan eich Goruchwyliwr Addysgol, Cyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi a’r paneli Adolygiad o Ddatblygiad Cymhwysedd (RCP) i fesur eich perfformiad ac felly i benderfynu ar eich canlyniad terfynol ar ddiwedd eich blwyddyn hyfforddi.

Byddwch yn defnyddio’r portffolio i gofnodi eich gwaith clinigol bob mis (‘Cofnod o Brofiad Clinigol’) yn ogystal â myfyrio ar eich tiwtorialau (‘Myfyrdodau Tiwtorial’), Diwrnodau Astudio (‘Myfyrdodau Diwrnod Astudio’) a’ch profiad clinigol yn gyffredinol (‘Cofnod Myfyriol’). Byddwch yn cofnodi unrhyw ‘ddigwyddiadau arwyddocaol’ drwy’r ‘Cofnod Digwyddiadau Arwyddocaol’ ac yn cofnodi unrhyw anghenion dysgu a’ch cynnydd yn erbyn y rhain drwy’r adran ‘Anghenion Dysgu’. Bydd gan bob adran ei llif gwaith ei hun gyda mewnbwn fel arfer yn cael ei drosglwyddo gennych chi, y Deintydd Sylfaen, i’r Goruchwyliwr Addysgol i’w ystyried neu i’w gwblhau, ac yna i Gyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi os yw hynny’n berthnasol.

Mae ‘cwblhau boddhaol’ mewn perthynas â Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol yn dibynnu ar ddiweddaru eich e-bortffolio yn rheolaidd ac yn brydlon.

Cofiwch fod eich e-bortffolio yn ddogfen y gallai pobl eraill ei weld mewn rhai amgylchiadau, rhai y tu allan i’r proffesiwn, yn enwedig mewn achosion difrifol lle mae digwyddiad arwyddocaol yn ymwneud â chlaf wedi digwydd. Am y rheswm hwn, mae’n hanfodol bod yr holl gofnodion e-bortffolio yn cydymffurfio â chyfreithiau diogelu data ac nad ydynt yn cyfeirio at gleifion yn ôl eu henw. Rhaid i’ch cofnodion aros yn ddienw mewn perthynas â manylion adnabod y claf a mynd i’r afael â’r dysgu o safbwynt gwrthrychol yn hytrach nag un goddrychol.

Apeliadau

Os digwydd Deilliant 3 neu Ddeilliant 4 yn ystod Adolygiad Terfynol o Ddatblygiad Cymhwysedd (FRCP), mae gennych hawl i gyflwyno cais am apêl. Rheolir apeliadau gan y tîm Rheoli Datblygiad Hyfforddeion (TPG) a gellir gweld y polisi ar gyfer apeliadau, yn ogystal â dogfennau cysylltiedig, ar y dudalen we isod –

https://heiw.nhs.wales/support/trainee-progression-governance

Gair i Gloi

Gair i Gloi

Gobeithio bod yr adnodd hwn wedi bod o werth i chi.

Gyda’n tîm o Gyfarwyddwyr Rhaglenni Hyfforddi a Goruchwylwyr Addysgol profiadol iawn, byddwch yn cael hyfforddiant o safon ragorol mewn amgylchedd cefnogol iawn, ac rydym yn hyderus y byddwch yn mwynhau eich Blwyddyn Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol.

Dymunwn y gorau i chi.

Y Tîm Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol

Atodiad 1

Hysbysiad Preifatrwydd AaGIC ar gyfer Hyfforddeion Deintyddol Sylfaenol

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw darparu tryloywder ynghylch pa ddata personol y bydd AaGIC yn ei gasglu amdanoch chi, sut bydd yn cael ei brosesu a’i storio, am ba hyd y bydd yn cael ei gadw a phwy fydd yn cael gweld eich data.

Mae AaGIC yn rheolwr data mewn perthynas â’r data personol sydd ganddo ynghylch Deintyddion Sylfaen yng Nghymru.

Mae data personol yn wybodaeth y gellir adnabod unigolyn ohoni, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, pan fydd y wybodaeth yn cael ei darllen ar y cyd â data arall sy’n cael ei ddal gan reolwr data.

O 25 Mai 2018 ymlaen, bydd Deddf Diogelu Data 1998 yn cael ei disodli gan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a dyma fydd prif deddfwriaeth y DU sy’n ymwneud â data personol. Bydd AaGIC yn ddarostyngedig i’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.

Dylai Deintyddion Sylfaen fod yn ymwybodol bod yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i’r holl waith prosesu mae AaGIC yn ei wneud o ran eich data personol mewn perthynas â’ch rôl neu sy’n deillio o’ch rôl.

Pam mae eich data personol yn cael ei gasglu?

Caiff eich data personol ei gasglu a’i gadw at ddibenion:

  • Cefnogi’r gwaith o reoli’r rhaglenni hyfforddi – bydd data personol a gesglir at y diben hwn yn cael ei gadw yn eich ffeil hyfforddi, a fydd fel arfer yn cynnwys eich data recriwtio (ffurflen gais, dogfennau recriwtio ac unrhyw gofnodion mewnfudo), Cofnod Datblygiad Cymhwysedd Dros Dro (IRCP) a’r Cofnod Terfynol o Ddatblygiad Cymhwysedd (FRCP) ac unrhyw wybodaeth a chyfathrebu arwyddocaol sy’n berthnasol i reoli eich hyfforddiant a’ch addysg yn effeithiol.
  • Sicrhau ansawdd rhaglenni hyfforddi a sicrhau bod safonau’n cael eu cynnal – drwy dimau sicrhau ansawdd lleol a chenedlaethol fel cyfleoedd adborth ar ôl pob Diwrnod Astudio gyda Chyfarwyddwyr Rhaglenni Hyfforddi (TPD) ac arolwg cenedlaethol y Bwrdd Cynghori ar Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol (ABFTD).
  • Pennu targedau cynllunio gweithlu – defnyddir eich data i bennu meysydd y gallwn ganolbwyntio arnynt i helpu i adeiladu’r gweithlu deintyddol yng Nghymru.
  • Cynnal diogelwch cleifion drwy reoli pryderon ynghylch perfformiad – mae’n bosib y bydd eich manylion personol yn cael eu rhannu â’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC) os bydd pryderon sylweddol ynghylch eich addasrwydd i ymarfer.
  • Cyfathrebu gyda chi ynghylch cyfleoedd hyfforddi, digwyddiadau, arolygon, gweithgarwch Portffolio Datblygiad Personol Electronig (EPDP) a gwybodaeth a allai fod o ddiddordeb i chi.
  • Hwyluso dull tryloyw o ymdrin â DFT yng Nghymru.
  • Hwyluso dull tryloyw o benodi cynrychiolydd DFT ar gyfer y garfan i annog llais yr hyfforddeion.
  • Cefnogi a chynghori’r holl randdeiliaid sy’n ymwneud â Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol yng Nghymru.
  • Sicrhau ein bod yn gallu darparu gofal bugeiliol / llesiant i FDs os oes angen.
  • Diogelu gwybodaeth.
  • Cael mynediad at systemau TG a systemau EPDP perthnasol y GIG.
  • Mynediad at lwyfannau perthnasol eraill i gefnogi Hyfforddiant DFT yng Nghymru.
  • Hwyluso’r gwaith o reoli DFT yn effeithlon yng Nghymru drwy system DESAP.

Mae swyddogaethau AaGIC yn cael eu cyflawni er budd y cyhoedd. Mae angen prosesu data personol FDs at ddibenion y swyddogaethau hynny. Mae data personol sensitif y mae’n bosib y bydd angen i ni ei rannu yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’ch iechyd neu eich cofnod troseddol os bydd angen i’ch cyflogwr neu’r GDC fod yn ymwybodol o’r manylion.

Sut mae eich data personol yn cael ei gasglu?

Cesglir data personol pan fyddwch yn ymgysylltu â phroses Recriwtio Cenedlaethol DFT, yn mynychu ac yn cymryd rhan yn y broses ddyrannu leol, ac yn ystod sesiynau ymsefydlu’r cynllun. Mae data personol hefyd yn cael ei gasglu a’i storio ar y EPDP yn unol â pholisi rheoli cofnodion Addysg Iechyd Lloegr (HEE) ac amserlen cadw cofnodion y GIG, sy’n rhan o god ymarfer rheoli cofnodion y GIG.

Sut mae eich data personol yn cael ei gadw’n ddiogel?

Mae mynediad at eich data personol wedi’i gyfyngu i’r tîm awdurdodedig yn Addysg Iechyd Lloegr (HEE), y Tîm DFT yn AaGIC, a chyflogwr Deintyddion Sylfaen, sef Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC).

Bydd eich data personol yn cael ei gadw am saith mlynedd ar ôl i chi adael eich rôl FD. Bryd hynny, bydd eich data personol yn cael ei ddinistrio’n gyfrinachol ac yn ddiogel.

Sut a pham y gellir rhannu eich data personol?

Cedwir y wybodaeth hon mewn cronfa ddata electronig gudd gyda mynediad cyfyngedig.

Mae’n bosib y bydd eich data personol yn cael ei rannu â –

  • Y Goruchwyliwr Addysgol penodedig a’r practis – at ddibenion hyfforddi.
  • Llywodraeth Cymru – at ddiben cynllunio’r gweithlu, cyllido, cadw staff a darparu gwasanaethau yng Nghymru.
  • Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) - fel y cyflogwr ar gyfer Deintyddion Sylfaen.
  • Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (NHSBSA).
  • Gwasanaethau Gofal Sylfaenol – at ddiben ymholiadau ynghylch y rhestr Perfformwyr.
  • Byrddau Iechyd Lleol (LHB).
  • Addysg Iechyd Lloegr (HEE) – ar gyfer y Portffolio Datblygiad Personol Electronig (EPDP).
  • Pwyllgor y Deoniaid a’r Cyfarwyddwyr Deintyddol ôl-raddedig (COPDEND).
  • Trydydd partïon at ddibenion adrodd neu ymchwilio a rheoli gwasanaethau, megis portffolios ac APLAN (Rhwydwaith Dysgu ac Asesu Cymheiriaid Anhysbys).
  • Siaradwyr sy’n cyflwyno sesiynau ar-lein, er mwyn sefydlu’r sesiynau, a rhannu adnoddau ategol sy’n berthnasol i’r sesiwn.
  • Darparwyr adnoddau ar-lein, i ganiatáu mynediad at ddull dysgu cyfunol.
  • Uned Cefnogi Perfformiad AaGIC, i’ch cefnogi gydag unrhyw anawsterau sy’n eich poeni’n bersonol ac yn broffesiynol y gallech chi eu hwynebu yn ystod eich blwyddyn DFT.
  • Cynrychiolydd Hyfforddeion DFT i hwyluso creu a rheoli fforymau hyfforddeion.

Dim ond drwy ddefnyddio sianeli diogel y bydd AaGIC yn trosglwyddo eich data personol i drydydd partïon, a phan fydd ei angen i reoli eich rôl Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol, er enghraifft, materion sy’n ymwneud â pherfformiad, cofrestru proffesiynol a gonestrwydd, neu faterion sy’n ymwneud â thaliadau.

Ni fydd AaGIC yn trosglwyddo eich data oni bai ei fod yn fodlon ar y materion canlynol:

  1. Bod sail deg a chyfreithlon dros rannu eich data personol â’r trydydd parti.
  2. Bydd y data’n cael ei drin gan y trydydd parti yn unol â’r gyfraith ar ddiogelu data.

Pan fydd y data’n cael ei ddefnyddio at ddiben dadansoddi a chyhoeddi gan dderbynnydd neu drydydd parti, bydd unrhyw gyhoeddiad yn ddienw ac yn agregedig ac ni fydd yn ei gwneud yn bosibl adnabod unrhyw unigolyn. Bydd hyn yn golygu bod y data’n peidio â bod yn ddata personol.

Gall trydydd partïon gynnwys y rhestr anghyflawn ganlynol: Cymdeithas Ddeintyddol Prydain (BDA), Llywodraeth Cymru, y Cyngor Deintyddol Cyffredinol, Iechyd Galwedigaethol, Arolygiaeth Iechyd Cymru (AIC).

Diogelwch Eich Gwybodaeth

Mae AaGIC yn cymryd y cyfrifoldeb o ofalu am eich gwybodaeth bersonol o ddifri. Mae hyn yn wir p’un ai a yw’n electronig neu ar ffurf papur.

Rydym hefyd yn cyflogi rhywun sy’n gyfrifol am reoli gwybodaeth a chyfrinachedd i sicrhau:

  • Bod eich gwybodaeth yn cael ei diogelu; a
  • Rhoi gwybod i chi sut y bydd yn cael ei defnyddio.

Mae’n ofynnol i’r holl staff ymgymryd â hyfforddiant yn rheolaidd. Mae angen hyfforddiant cynhwysfawr er mwyn gallu diogelu’r wybodaeth sydd wedi ei rhoi, ei defnyddio a’i phrosesu gan AaGIC.

Mae’r hyfforddiant hwn yn sicrhau bod pob aelod o staff sy’n gweithio i AaGIC (gan gynnwys GIG Cymru ehangach) yn ymwybodol o’i gyfrifoldebau mewn perthynas â thrin eich gwybodaeth, ni waeth pa adran mae’n gweithio ynddi.

Eich hawliau a’ch cyfrifoldebau

Mae’n bwysig eich bod yn gweithio gyda ni i sicrhau bod yr wybodaeth sydd gennym amdanoch yn gywir ac yn gyfredol, felly rhowch wybod i AaGIC ar unwaith os oes angen diweddaru neu gywiro unrhyw ran o’ch data personol.

Fel arfer, bydd pob gohebiaeth gan AaGIC yn cael ei hanfon drwy neges e-bost. Felly, mae’n hanfodol eich bod yn cadw cyfeiriad e-bost effeithiol a diogel neu efallai na fyddwch yn cael gwybodaeth.

Os ydych chi’n dymuno cael copi o’ch data personol sy’n cael ei gadw gan AaGIC ar unrhyw adeg, gallwch gyflwyno cais am fynediad at ddata gan y testun yn ysgrifenedig.

Mewn rhai amgylchiadau prin, mae gennych hawl i wrthwynebu prosesu data sy’n debygol o achosi niwed neu ofid i chi, neu unrhyw benderfyniadau a wneir drwy ddulliau awtomataidd sy’n effeithio’n sylweddol arnoch chi.

Mae gennych hefyd hawl i gywiro, rhwystro, dileu neu ddinistrio data personol anghywir.

Os ydych chi’n dymuno arfer unrhyw un o’r hawliau hyn, neu os oes gennych chi unrhyw bryderon ynghylch sut mae eich data personol yn cael ei brosesu, cysylltwch ag AaGIC.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ddiogelu data, ewch i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Mae’i ICO yn delio â chwynion am sut mae rheolwyr data wedi delio â materion sy'n ymwneud â gwybodaeth ac mae'n darparu canllawiau defnyddiol.

Cwyno

Os ydych chi’n dymuno cwyno am unrhyw broblemau rydych chi wedi’u cael gyda’ch gwybodaeth, cysylltwch â:

Swyddog Diogelu Gwybodaeth
Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Tŷ Dysgu,
Cefn Coed,
Nantgarw,
CF15 7QQ

Ffôn:                03300 585 005
E-bost:             HEIW.informationgovernance@wales.nhs.uk

Os ydych yn dal i fod yn anfodlon yn dilyn eich cwyn a bod hyn yn dal heb ei ddatrys, mae gennych hawl i wneud cwyn i:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth,
Ail Lawr
Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

E-bost:             wales@ico.gsi.gov.uk
Gwefan:           www.ico.org.uk

Mwy o wybodaeth

I gael mwy o wybodaeth am yr hysbysiad preifatrwydd hwn neu os oes gennych gwestiynau am y cynnwys, cysylltwch ag:

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Ffôn:                03300 584 219
e-bost:             heiw.dental@wales.nhs.uk

Atodiad 2

Lwfansau Teithio a Chynhaliaeth ar gyfer Cyrsiau Astudio Cymeradwy ar gyfer Hyfforddeion Deintyddol

Lwfansau Cynhaliaeth Nos o 1 Ebrill 2024

Mae hawliadau llety yn ôl disgresiwn AaGIC a rhaid cytuno arnynt gyda Deon Cyswllt DFT/DCT/DST ymlaen llaw ac maent yn dibynnu ar bellter teithio.

Categori Llety Cyfradd Daladwy
Lwfansau Nos: 30 noson gyntaf Cost gwirioneddol gwely a brecwast gyda derbynneb hyd at uchafswm o £75 y tu allan i Lundain/Caerdydd a £100 yn Llundain/Caerdydd
Lwfans Prydau Bwyd Fesul cyfnod o 24 awr: cost derbynneb hyd at yr uchafswm o £25. Mae angen derbynebau i gefnogi'r gwariant gwirioneddol a hawlir.
Lwfansau nos mewn llety anfasnachol Fesul cyfnod o 24 awr: £25.00 Nid oes angen derbynneb. 
Lwfansau Nos: ar ôl y 30 noson gyntaf Gweithwyr sydd â chyfrifoldebau penodol e.e. yn briod/mewn partneriaeth sifil/yn byw gyda phartner a/neu sydd â dibynyddion yn byw gyda nhw Uchafswm taladwy: £35.00 Gweithwyr heb gyfrifoldebau a’r rhai sy’n aros mewn llety anfasnachol Uchafswm taladwy: £25.00

Os yw deintydd yn hawlio am aros dros nos, rhaid iddo atodi derbynneb neu gyfriflen i ddangos bod y treuliau yn wirioneddol ac yn angenrheidiol. 

 

Lwfansau Cynhaliaeth Dydd o1 Ebrill 2024

Cyfnod: Cyfradd Daladwy
Lwfansau Cynhaliaeth Prydau Dydd

Lwfans Cinio (mwy na phum awr i ffwrdd o'r ganolfan, gan gynnwys y cyfnod amser cinio rhwng
12:00 pm a 2:00 pm) hyd at uchafswm o £5.00. Mae angen derbynneb ar gyfer y gwariant gwirioneddol
a hawlir, cyn i hawliadau gael eu prosesu ac ad-daliad yn cael ei wneud.

 

Lwfans Cinio Gyda'r Nos (mwy na deg awr i ffwrdd o'r ganolfan ac yn dychwelyd ar ôl 7:00pm) hyd at
uchafswm o £10.00. Mae angen derbynneb ar gyfer y gwariant gwirioneddol.

Lwfans Treuliau Achlysurol (mae rhwymedigaeth dreth ar y lwfans hwn) Fesul cyfnod o 24 awr: £4.20
Lwfans Cyfrifoldebau Hwyr y Nos (mae rhwymedigaeth dreth ar y lwfans hwn) Fesul cyfnod o 24 awr: £3.25

Lwfansau Milltiroedd

Ar gyfer teithio i leoliad diwrnod astudio

(Noder i gael eich ad-dalu am eich milltiroedd bydd angen i chi uwchlwytho copi o'ch dogfen yswiriant car i ddangos bod defnyddio'ch cerbyd at ddefnydd busnes yn cael ei ganiatáu.)

Cynhaliaeth Cyfradd yn daladwy
Cyfradd milltiredd ar gyfer astudio Y filltir: 0.24

Mewn achosion lle deuir ar draws pellteroedd hir neu lwybrau teithio anodd, trafodwch gyda'ch TPD i'w gyfeirio i'w ystyried gan y Deon Cyswllt.