Neidio i'r prif gynnwy

Myfyrwyr Nyrsio Cyn-gofrestru Rhyngwladol

Diolch am ymweld â thudalen Nyrsio Cyn-gofrestru Rhyngwladol Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

Sylwch ein bod yn diweddaru’n gwybodaeth yn rheolaidd ac mae'r dudalen we bwrpasol hon yn lletya’r holl wybodaeth berthnasol.

 

Mae AaGIC, mewn cydweithrediad â phartneriaid allanol wedi datblygu prosiect peilot cyffrous a gafodd ei gymeradwyo, am gyfnod o dair blynedd, gan Lywodraeth Cymru ym mis Mai 2023.

Bob blwyddyn mae Llywodraeth Cymru’n rhyddhau ffigurau o ran niferoedd y nyrsys y mae angen hyfforddiant arnynt i ymuno â’r gweithlu sy'n darparu gwasanaethau o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru. Yn achos myfyrwyr sy’n hanu o’r DU, mae Bwrsariaeth GIG Cymru ar gael yn nawdd i ymgymryd â'r cwrs nyrsio cyn-gofrestru. Mae hyn yn amodol ar y disgwyliad iddynt weithio yn GIG Cymru am gyfnod o ddwy flynedd ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus a chofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC).

Bydd nifer o leoedd hyfforddiant tebyg wedi’u hariannu ar gael am y tro cyntaf i fyfyrwyr rhyngwladol, nad ydynt wedi ymroi i gwrs nyrsio yn y DU neu wedi cwblhau rhaglen nyrsio i ennill cofrestriad fel nyrs, sy'n dymuno astudio i fod yn nyrs gymwys yn y Deyrnas Unedig ac sy’n barod i weithio yng Nghymru.

Manylion

  • Bydd darpar ymgeiswyr yn ymgymryd â Gradd Baglor mewn Nyrsio, llawnamser dros gyfnod o dair blynedd. Byddant yn symud ymlaen i weithio yng Nghymru am o leiaf 24 mis ar ôl cwblhau eu hastudiaethau’n llwyddiannus.
  • Bydd y ffioedd dysgu’n cael eu talu amdanynt, naill ai yn eu cyfanrwydd neu’n rhannol, am dair blynedd y cwrs gradd Baglor mewn Nyrsio llawnamser (yn dibynnu ar y brifysgol).
  • Cyfrennir taliad untro o £500 i ysgwyddo’r costau sy'n gysylltiedig ag adleoli i Gymru ac ymgartrefu.
  • Bydd myfyrwyr hefyd yn cael grant blynyddol o £1000 i'w cynorthwyo â’u hastudiaethau. 
  • Cymorth ariannol ar gyfer treuliau teithio a chostau llety sy'n gysylltiedig â lleoliadau, yn unol â chanllaw treuliau lleoliadau AaGIC: https://heiw.nhs.wales/files/payment-of-placement-expenses-hei-guide-april-2022/
  • Cymorth gan sefydliadau addysg uwch (SAU) i gwrdd â myfyrwyr eraill, dod o hyd i lety ac ymgyfeirio i fyw ac astudio yng Nghymru.
  • Bydd Byrddau Iechyd yn gweithio mewn partneriaeth â'r SAU i sicrhau'r cyfleoedd  angenrheidiol o ran lleoliadau i alluogi’r myfyrwyr i fodloni gofynion y Cwrs.

 Cyllid

  • Bydd AaGIC yn ysgwyddo’r ffioedd dysgu, naill ai yn eu cyfanrwydd neu’n rhannol, yn dibynnu ar y brifysgol.
  • Bydd pob myfyriwr yn cael grant ‘ymgartrefu’ atodol, untro o £500. 
  • Bydd pob myfyriwr yn cael taliad blynyddol o £1000 i'w gynorthwyo gyda'i astudiaethau. 

Ymrwymiad i weithio yng Nghymru. 

  • Os bydd myfyriwr yn dewis derbyn cynnig am le hyfforddiant gan SAU, a chyllid fel rhan o’r prosiect peilot, mae'n ofynnol iddo ymrwymo i weithio yng Nghymru mewn cyflogaeth addas am o leiaf 24 mis ar ôl cwblhau'r cwrs. 
  • Os bydd myfyriwr yn methu â derbyn cyflogaeth addas yn dilyn cwblhau'r prosiect peilot, bydd gofyn iddo ad-dalu cyfanswm cost y cwrs.
  • Os bydd myfyriwr yn ymddiswyddo cyn cwblhau'r 24 mis o gyflogaeth addas, bydd disgwyl i gyfran o gostau’r cwrs gael eu had-dalu. Bydd hyn yn cael ei nodi yn y ‘contract’.
  • Os bydd myfyriwr yn aros mewn cyflogaeth addas am 24 mis ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus a chofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, ni fydd unrhyw gostau i'w had-dalu.

Amodau Ad-dalu 

  • Os bydd myfyriwr yn gadael cyn cwblhau 24 mis o gyflogaeth addas, bydd gofyn i'r myfyriwr ad-dalu ei ffioedd dysgu, naill ai’n rhannol neu’n gyfan gwbl. 
  • Bydd y cyfnod gwasanaeth yn cael ei gyfrifo o ddyddiad gorffen y cwrs neu ddyddiad gorffen y Cyflogaeth Addas.
  • Ceir rhai amgylchiadau cyfyngedig a ganiatâ i fyfyrwyr gael eu heithrio rhag gorfod ad-dalu costau'r cwrs sef: 
  1. Methiant cwrs; neu 
  1. Amgylchiadau eithriadol, e.e. afiechyd;  
  1. Diffyg cyflogaeth addas ar gael i'r myfyriwr. 
  • Mae unrhyw benderfyniad sy'n ymwneud ag amgylchiadau eithriadol yn ôl disgresiwn AaGIC yn gyfan gwbl. 
  • Caiff unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â phresenoldeb ar gyfer y cwrs, heblaw'r ffioedd dysgu, eu heithrio o'r amodau ad-dalu hyn. Gall costau o'r fath gynnwys treuliau teithio a chostau llety. Ni fydd gofyniad i ad-dalu costau o'r fath ac eithrio amgylchiadau lle canfyddir nad oedd gan y myfyriwr hawl i'r treuliau hyn. 

Ble y gallwch chi astudio.

Mae chwe phrifysgol nyrsio yng Nghymru sy'n cynnig rhaglenni Nyrsio Cyn-gofrestru Rhyngwladol. Isod, mae dolenni wedi’u cynnwys ar gyfer yr holl sefydliadau. Rydym yn argymell ichi gyrchu gwefannau’r holl brifysgolion ac adolygu eu tudalennau nyrsio. Bydd timau derbyniadau’r prifysgolion yn gallu ateb unrhyw gwestiynau ynglŷn â'ch cymhwystra i ymgeisio am eu cyrsiau ac felly’ch cymhwystra ar gyfer y prosiect ariannu Nyrsys Cyn-gofrestru Rhyngwladol.

Dolenni’r prifysgolion

Sylwer, rydym yn ymlynu wrth y Cod Ymarfer ar gyfer Recriwtio Rhyngwladol yn unol â Rhestr Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Cynorthwyo a Diogelu’r Gweithlu, 2023.

Y Coleg Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC)