Neidio i'r prif gynnwy

AaGIC yn lansio ymgynghoriad cenedlaethol ar Fframwaith Cymhwysedd Ymarferydd Gofal Uwch (ACP) ar gyfer gofal sylfaenol

Fodd bynnag, hyd yn hyn, ni fu unrhyw ymdrech yng Nghymru i ddiffinio’r cymwyseddau sydd eu hangen i ymgymryd ag ymarfer clinigol uwch o fewn gofal sylfaenol neu gymunedol.

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wrth eu bodd yn mynd i'r afael â hyn drwy ddatblygu'r Fframwaith Cymhwysedd Ymarferydd Gofal Uwch. Mae’r fframwaith wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol o bob bwrdd iechyd ar draws GIG Cymru.

Gwahoddir clinigwyr mewn gofal sylfaenol a chymunedol i roi adborth ar y fframwaith trwy ffurflen ar-lein, i helpu i'w fireinio a'i deilwra i'w hymarfer dyddiol.

Mae’r ffurflen adborth yn cau ar 20 Gorffennaf 2024.


Mae’r fframwaith o fudd i ACPs gan y bydd yn caniatáu iddynt:

  • Diffinio'r cymwyseddau sydd eu hangen i weithio mewn gofal sylfaenol a chymunedol ar lefel uwch. Mae’r unigolyn yn hunanasesu ei gymhwysedd ei hun yn erbyn cyfres o feysydd ac yn nodi’r cymwyseddau allweddol sydd eu hangen o fewn eu cwmpas ymarfer
  • mapio eu hanghenion addysg a hyfforddiant eu hunain i gynnal ac ymestyn eu cwmpas ymarfer, i’r math o adnoddau sydd eu hangen i gyflawni’r cymhwysedd hwnnw
  • darparu disgrifyddion ‘cwmpas ymarfer’ clir ar gyfer pob blwyddyn o hyfforddiant, a chynllunio eu datblygiad, tra’n bod yn glir ynghylch eu cwmpas ymarfer presennol
  • yn manylu ar y sgiliau clinigol craidd sydd y tu ôl i bob maes ymarfer / cyflwyniad dangosol


I gael rhagor o wybodaeth, ewch i  dudalen we fframwaith ACP.