Neidio i'r prif gynnwy

Datblygiad y Rhaglen Sylfaenol Nyrsys Meddygfa (GPN)

Mae llawer o nyrsys meddygfa (GPNs) yn agosáu at ddiwedd eu gyrfaoedd, gyda tua 50% o’r gweithlu dros 50 oed ac mae canran sylweddol yn gweithio llai na llawn amser.

Oherwydd hyn, mae angen brys i recriwtio a hyfforddi mwy o GPNs i gynnal ac ehangu’r gweithlu. Mae angen i ni hefyd eu cefnogi i ddatblygu sgiliau newydd sy’n gwneud y mwyaf o’u cyfraniad i ofal cleifion.

Mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd arloesol o ddenu nyrsys cymwys i ddod yn GPNs ac i ysbrydoli nyrsys newydd gymhwyso i gymryd eu cam cyntaf tuag at yrfa hir a boddhaus mewn meddygaeth gyffredinol. Dyma lle mae’r Rhaglen Sylfaenol GPN newydd yn dod i rym.

 
Beth yw GPN?

Mae Nyrsys Meddygfa (GPNs) yn gweithio mewn meddygfeydd lle maent yn cynllunio ac yn darparu gofal, triniaeth ac addysg iechyd i gleifion o bob oed. Maent yn darparu gofal cyswllt cyntaf a gofal parhaus i’r boblogaeth, gan reoli cyflyrau hirdymor fel clefyd y galon cronig, diabetes, ac yn cefnogi’r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl, anableddau dysgu neu ddementia. Mae GPNs yn darparu rhaglenni brechu, gwasanaethau atal cenhedlu a sgrinio ceg y groth.

Maent yn aelodau allweddol o dîm amlddisgyblaethol sy’n cynnwys meddygon, fferyllwyr, therapyddion ac ystod o weithwyr proffesiynol eraill sy’n darparu gofal sy’n canolbwyntio ar y person.

Mae tua 1,000 o GPNs yng Nghymru yn gweithio ar draws 400 o feddygfeydd.

 
Fframwaith ar gyfer GPN

Yn 2021, fe wnaethom ddatblygu ‘Fframwaith ar gyfer Nyrsio Meddygfa Gyffredinol’ sy’n nodi’r sgiliau a’r cymwyseddau allweddol ar gyfer GPN. Dyma’r tro cyntaf yng Nghymru i set glir o safonau gael eu cynhyrchu.

Mae’r fframwaith hefyd yn cefnogi cyflogwyr a nyrsys meddygfa i ystyried ac adnabod anghenion hyfforddi, yn ogystal â chefnogi eu datblygiad gyrfa.

 

Rhaglen sylfaenol GPN

I gefnogi hyn, rydym hefyd wedi datblygu rhaglen sylfaenol GPN genedlaethol. Bydd hyn yn darparu llwybr safonol ar gyfer nyrsys sydd am ddatblygu gyrfa fel GPN.

Mae cwricwlwm y rhaglen yn cynnig cymysgedd o ddysgu cenedlaethol a lleol ochr yn ochr â dysgu yn seiliedig ar waith a datblygiad sgiliau.

Manteision y rhaglen hon i nyrsys yw:

  • Contract cyflogaeth tra’n dilyn hyfforddiant ffurfiol dros gyfnod o 9 i 12 mis
  • Pecyn addysg wedi’i ariannu’n llawn sy’n gyfredol, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn unol â’r Fframwaith GPN
  • Amser wedi’i ddiogelu ar gyfer datblygu sgiliau a dysgu
  • Mynediad at oruchwyliwr addysgol
  • Datblygiad gyrfa wedi’i ganolbwyntio sy’n arwain at ymarfer clinigol mwy boddhaus a chyfleoedd gyrfa newydd
  • Rhwydwaith cymheiriaid o nyrsys eraill a chyfleoedd rhwydweithio

Manteision y rhaglen hon i Feddygfeydd yw:

  • Proses gyflymach i ymgorffori nyrsys newydd i Feddygfa Gyffredinol
  • Cyflenwad o nyrsys yn cael eu hyfforddi’n lleol
  • Gwell cadw staff o fewn lleoliadau gofal sylfaenol
  • Addysg a hyfforddiant wedi’u hariannu’n llawn
  • Datblygiad rôl goruchwyliwr ymarfer GPN o fewn y feddygfa

Mae HEIW yn cydnabod y rôl hanfodol y mae nyrsys meddygfa gyffredinol yn ei chwarae o fewn gofal sylfaenol, ac rydym yn gyffrous i hyrwyddo rhaglen o’r fath a fydd yn datblygu ac yn ysbrydoli GPNs y dyfodol i gefnogi gofal cleifion am flynyddoedd i ddod. Am fwy o wybodaeth am y Rhaglen Sylfaenol GPN, cysylltwch â’r tîm.