Neidio i'r prif gynnwy

Academïau

Gan gydweithio â byrddau iechyd, sefydlodd AaGIC saith academi gofal sylfaenol yn 2022.  Mae hyn yn adeiladu ar y cyrsiau a'r rhaglenni hyfforddi presennol a gomisiynwyd gan AaGIC ar gyfer rolau gofal sylfaenol sefydledig.

Beth yw'r Academïau Gofal Sylfaenol a Chymunedol?

Mae rhwydwaith yr Academi Gofal Sylfaenol yn fenter addysg a hyfforddiant gydweithredol, ystwyth ac aml-broffesiynol. Mae'n grymuso gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol drwy addysg; yn cefnogi arloesedd; ac yn gwella gofal cleifion ar draws cymunedau drwy ddatblygu gweithlu cynaliadwy sy'n barod ar gyfer y dyfodol. Wedi'u cefnogi gan AaGIC ac wedi'u hymgorffori ym mhob un o'r byrddau iechyd, mae'r Academïau'n cefnogi effeithiolrwydd lleol a chysondeb cenedlaethol mewn addysg a hyfforddiant.

Drwy gydweithio â chlystyrau, practisau lleol, a chyrff cenedlaethol, gall academïau alinio hyfforddiant ag anghenion y gweithlu. Mae nodau strategol yn cynnwys gwella recriwtio a chadw staff, meithrin cydweithio aml-broffesiynol, a sicrhau gweithlu cymwys a hyderus sy'n barod i wynebu heriau'r dyfodol.

Mae'r academïau'n helpu i:

  • Wneud rolau cymunedol yn fwy deniadol drwy alluogi llwybrau hyfforddi gweladwy, â chymorth, o addysg gynnar i ymarfer uwch.
  • Mynd i’r afael ag ardaloedd gwledig a rhai sydd wedi’u tanwasanaethu , gan leihau anghydraddoldebau iechyd drwy annog gweithwyr proffesiynol i hyfforddi ac aros yn eu rhanbarthau lleol.
  • Gwella canlyniadau cleifion, diolch i dimau mwy integredig a chydweithredol sydd wedi'u hyfforddi i ddarparu gofal cyfannol sy'n canolbwyntio ar y person.
Manylion cyswllt
 
Bwrdd lechyd  Gofal sylfaenol Academiau Ebost / Gwefan
Aneurin Bevan BLP  abb.pccacademy@wales.nhs.uk
Betsi Cadwaladr BLP  BCUHB Academi
Cardiff And Vale BLP  primaryandcommunitycareacademy.cav@wales.nhs.uk
Cwm Taf Morgannwg BLP  ctm.academy@wales.nhs.uk
Hywel Dda BLP  PrimaryCommunityAcademy.HDD@wales.nhs.uk
Powys BLA  pthb.pccacademy@wales.nhs.uk; 
 Croeso i P&CCA, sy'n darparu cefnogaeth a mynediad i hyfforddiant ac addysg
 Byw a Gweithio ym Mhowys
Swyddi GIG Powys
Swansea Bay BLP  SBU.PCCAcademy@wales.nhs.uk