Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiad Rhanddeiliaid Addysg a Hyfforddiant Gofal Sylfaenol a Chymunedol Cymru Gyfan 2024

Dechrau:
09:00 - 15/05/2024
Diwedd:
16:30 - 15/05/2024
Math o ddigwyddiad:
Conference
Lleoliad:
Mercure Holland House Hotel & Spa, Cardiff CF24 0DD

Disgrifiad

Ymunwch â ni ar gyfer Digwyddiad Rhanddeiliaid Addysg a Hyfforddiant Gofal Sylfaenol a Chymunedol Cymru Gyfan cyntaf AaGIC.

Dydd Mercher 15 Mai 2024

Mercure Holland House Hotel & Spa, Cardiff, CF24 0DD

Yn fwy nag erioed o’r blaen, mae angen i weithwyr proffesiynol o bob rhan o Ofal Sylfaenol a Chymunedol gydweithio i sicrhau bod gan ein gweithlu presennol a’n gweithlu yn y dyfodol y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddarparu gofal iechyd rhagorol i boblogaeth Cymru mor agos at eu cartrefi â phosibl.  

Thema'r diwrnod yw 'Grymuso'r gweithlu i ddarparu rhagoriaeth mewn gofal iechyd'. Bydd y rhaglen yn eich cefnogi yn eich rôl wrth i chi gael cipolwg newydd ar y cyd-destun gofal sylfaenol. Drwy gysylltu â rhanddeiliaid eraill byddwch yn nodi cyfleoedd ar gyfer alinio a chydweithio. 

Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfleoedd i gynadleddwyr ddysgu, rhwydweithio a chydweithio trwy gyflwyniadau, ystafelloedd ymneilltuo a thrafodaeth anffurfiol. 

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i rannu eich mewnwelediadau, eich syniadau, a helpu i lunio dyfodol gofal iechyd sylfaenol yng Nghymru.