Neidio i'r prif gynnwy

Gweithdy F: Canolbwyntio ar Arfarniad Addysgol: Gwneud i'r Broses Reoleiddio weithio ar eich Ran

 
Hwyluswyd gan

Sarah Davidson, Meddyg Ymgynghorol ac Arweinydd Cyfadran ar gyfer Hyfforddwyr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Mandy Martin, Rheolwr Ansawdd, Deoniaeth Feddygol, AaGIC

Pwy ddylai fynychu

Hyfforddwyr pob lefel o brofiad a'r rhai sy'n ymgymryd â rôl arfarnwr.

Mapiwyd i Feysydd Fframwaith y CMC

Datblygiad proffesiynol parhaus fel addysgwr (Maes Fframwaith 7)

Trosolwg

Mae arfarniad addysgol yn chwarae rôl hanfodol wrth gynorthwyo datblygiad, cydnabod cyflawniad, a galluogi dilyniant o fewn rolau arweinyddiaeth addysgol a rolau hyfforddwyr. Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn archwilio pwrpas a gofynion yr arfarniad addysgol, gyda ffocws penodol ar y rhai sy'n ymgymryd â rolau addysgol. Gan dynnu ar lenyddiaeth presennol gan gynnwys data AaGIC, themâu MARS, a chanfyddiadau o'r Arolwg Hyfforddiant Cenedlaethol, bydd cyfranogwyr yn archwilio'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer arfarniadau addysgol effeithiol ac yn ystyried sut y gellir defnyddio arfarnu i wella datblygiad unigol ac ansawdd ymarfer addysgol.

 

Trwy astudiaethau achos, trafodaeth wedi'i hwyluso, a phrofiadau a rennir, bydd cynrychiolwyr yn archwilio dulliau ymarferol o gyflawni myfyrio ac arfarnu ystyrlon fel rhan o'u cylch datblygiad proffesiynol parhaus. Bydd y gweithdy hefyd yn tynnu sylw at ehangder y cyfleoedd arweinyddiaeth addysgol sydd ar gael ac yn ystyried sut y gall arfarnu gynorthwyo dilyniant gyrfa. Bydd cyfranogwyr yn cael eu cyflwyno i becyn cymorth arfarnu addysgol ymarferol a byddant yn trafod strategaethau ar gyfer paratoi a chasglu tystiolaeth. Byddant hefyd yn cael eu cyflwyno i gynllunio datblygiad personol, myfyrio ar anghenion datblygu, a chynllunio rolau addysgol yn y dyfodol i wneud y mwyaf o werth y broses arfarnu.

Amcan(ion):
  • Deall pwrpas, gofynion a disgwyliadau arfarnu ar gyfer rolau addysgol.
  • Adolygu a dehongli’r dystiolaeth a data o bwys sy'n ymwneud ag arfarniad addysgol, gan gynnwys canfyddiadau AaGIC, MARS, a'r Arolwg Hyfforddiant Cenedlaethol.
  • Archwilio astudiaethau achos sy'n dangos sut y gall arfarniad effeithiol gynorthwyo datblygiad addysgol, cydnabyddiaeth a dilyniant gyrfa.
  • Cymhwyso dulliau ac offer ymarferol i baratoi ar gyfer ac ymgymryd ag arfarniad addysgol llwyddiannus, gan gynnwys casglu tystiolaeth, myfyrio, cynllunio datblygiad personol, a thrafod llwybrau gyrfa addysgol yn y dyfodol.