Francis Subash, Anesthetydd Ymgynghorol ac Arweinydd Efelychu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Hyfforddwyr pob lefel o brofiad.
Sicrhau gofal diogel ac effeithiol i gleifion trwy hyfforddiant (Maes Fframwaith 1); Sefydlu a chynnal amgylchedd ar gyfer dysgu (Maes Fframwaith 2); Addysgu a hwyluso dysgu (Maes Fframwaith 3); Datblygiad proffesiynol parhaus fel addysgwr (Maes Fframwaith 7)
Mae'r gweithdy hwn yn cynnig trosolwg cryno a hawdd ei ddeall o wyddor ffactorau dynol yng nghyd-destun gofal iechyd.
Bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn tywys cyfranogwyr trwy wahanol gysyniadau ffactorau dynol, gan ddefnyddio enghreifftiau yn y byd go iawn.
Bydd cyfranogwyr hefyd yn gallu gwerthfawrogi sut mae elfennau ffactorau dynol o bwys yn rhyngweithio i ddylanwadu ar y broses gwneud penderfyniadau ac felly canlyniadau.
Bydd cyfranogwyr yn cael cyfleoedd i gymhwyso'r egwyddorion hyn i broblemau penodol y maent yn eu hwynebu, yn enwedig yng nghyd-destun darparu gofal iechyd a hyfforddiant.
Bydd cynrychiolwyr yn gallu ymarfer sgil 'gwrando ar gyfer dysgu', sydd wedi'i ddatblygu i helpu ymgorffori rhaglenni sy'n seiliedig ar ffactorau dynol.