Croeso i dudalen we Cynhadledd Rhannu Rhagoriaeth Hyfforddiant mewn Addysg Feddygol (STEME) 2026.
Mae'r gynhadledd wyneb yn wyneb hon yn cael ei chynnal yn Stadiwm Swansea.com ddydd Mawrth 22ain o Fedi 2026 ac mae'n agored yn bennaf i hyfforddwyr meddygol sy'n ymgymryd â rolau hyfforddwr mewn gofal uwchradd neu addysg israddedig. (Nodyn: rhaid i bob cynrychiolydd fod wedi'i gofrestru ymlaen llaw).
Nod y digwyddiad yw rhoi cyfle i hyfforddwyr meddygol ledled GIG Cymru ddod at ei gilydd i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau i'w cefnogi i gyflawni eu rolau hyfforddwr yn effeithiol.
Thema'r gynhadledd eleni yw 'Trawsnewid Hyfforddiant ar gyfer GIG Cymru sy'n Newid'.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y gynhadledd hon, anfonwch e-bost at Uned Ansawdd AaGIC - HEIW.SRE@wales.nhs.uk
Cliciwch ar y botymau isod i gael mynediad at Raglen y Gynhadledd a gwybodaeth ddefnyddiol arall.