Tiwtor Hyfforddiant Sgiliau Gwella Ansawdd (QIST), Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Mae Mike wedi bod yn rhan o dîm QIST ers 2020 ond ymunodd yn swyddogol fel Tiwtor QIST ym mis Awst 2022. Mae wedi gweithio yn y GIG ers 1981 ac, ar ôl cymhwyso fel Nyrs Gofrestredig, treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa broffesiynol yn gweithio yn y sector ysbytai acíwt, yn enwedig Theatrau Llawdriniaeth.
Mae wedi gweithio ym maes Gwella Ansawdd ers 2003, yn dilyn secondiad i Lywodraeth Cymru, ac mae'n Gynghorydd Gwella Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI). Mae wedi arwain nifer o raglenni gwella cenedlaethol ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn 'Ffactorau Dynol' mewn gofal iechyd.
Ymddeolodd o rôl Pennaeth Diogelwch Cleifion ar gyfer 1000 o Fywydau – Gwasanaeth Gwella, Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2020.
Derbyniodd Mike MBA gan Brifysgol Morgannwg yn 2004 ac mae'n aelod o rwydwaith Q y Sefydliad Iechyd.