Rheolwr Achos, Uned Cymorth Proffesiynol, Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Mae Charlotte yn Rheolwr Achos Uned Cymorth Proffesiynol yn AaGIC, gan ddarparu cefnogaeth, arweiniad a hyfforddiant un-i-un i feddygon, deintyddion a fferyllwyr mewn hyfforddiant sy'n profi heriau proffesiynol, personol neu sy'n gysylltiedig â lles. Gan weithio ar draws ystod eang o gyflwyniadau, mae'n cefnogi meddygon preswyl a hyfforddeion i ddatblygu strategaethau ymarferol, cydnabod eu cryfderau a chael mynediad at gymorth priodol i'w helpu i ffynnu.
Mae cefndir proffesiynol Charlotte yn cynnwys gwaith radiograffeg ddiagnostig, diogelu oedolion a chefnogaeth broffesiynol, gan roi dealltwriaeth eang iddi o'r heriau sy'n wynebu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol trwy gydol eu gyrfaoedd. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn diwylliant gweithle, lles, gwytnwch, hunan-dosturi a chreu amgylcheddau seicolegol ddiogel lle gall dysgwyr ddatblygu a ffynnu.
Y tu allan i'r gwaith, mae Charlotte yn gwirfoddoli yn wythnosol mewn elusen achub milgwn - rhywbeth y mae'n ei ddisgrifio fel da i'r enaid yn ogystal â'r cŵn.