Neidio i'r prif gynnwy
Leona Walsh

Amdanaf i

Ymarferydd Cymorth Proffesiynol, Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Mae Leona yn gyfrifol am arwain y cymorth proffesiynol i feddygon, deintyddion a fferyllwyr mewn hyfforddiant yn AaG. Mae ei meysydd arbenigedd yn cynnwys datgloi potensial, gwella lles, a gwneud y mwyaf o berfformiad.

Mae ganddi brofiad helaeth o gyflwyno hyfforddiant, gydag achrediad fel Cyfryngwr yn y Gweithle ac aelodaeth o Academi'r Colegau Brenhinol Meddygol.

Mae Leona yn arwain mentrau addysgol sy'n canolbwyntio ar ddilyniant hyfforddi, cefnogaeth, lles, hunan-ofal, a datblygiad gyrfa.

Mae hi'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol am gyfraniadau at wella diwylliant hyfforddi ac yn cymryd rhan weithredol yn y Bwrdd Cynghori Rhaglen Cynhadledd Ryngwladol ar Addysg Breswyl (ICRE).