Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol, Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Mae Anton yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Meddygol yn AaGIC ac yn Ddirprwy Swyddog Cyfrifol ar gyfer meddygon preswyl.
Mae wedi dal nifer o swyddi ym maes addysg yn y gorffennol, gan gynnwys Deon Meddygol Ôl-raddedig, Cyfarwyddwr Gwella Addysg yn y Ddeoniaeth Feddygol yn AaGIC, Arweinydd Cyfadran, Cyfarwyddwr y Rhaglen Sylfaen, a Thiwtor ar gyfer y Bwrdd Rhyng-golegol Hyfforddiant mewn Meddygaeth Gofal Dwys (IBTICM).
Mae Anton yn gyn-fyfyriwr o raglen Harvard Macy ac mae wedi cwblhau MSc mewn Addysg Feddygol a gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA).
Mae'n gweithio'n glinigol fel Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Gofal Dwys ar sail llai nag amser llawn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.