Cadeirydd, Addysg a Gwella Iechyd Cymru
O Fachynlleth y mae Chris yn dod yn wreiddiol. Astudiodd Feddygaeth yng Nghaerdydd a chymhwysodd yn 1979. Ym maes ymarfer cyffredinol y mae ei gefndir ac yntau wedi bod yn feddyg teulu am 32 mlynedd ym Mhractis Bro Taf ym Mhontypridd, lle'r oedd yn un o'r prif bartneriaid.
Ef oedd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf rhwng 2009 a 2017 a, chyn hynny, roedd yn Gadeirydd Bwrdd Iechyd Lleol Rhondda Cynon Taf ers 2004.
Cafodd Chris CBE am ei wasanaeth i faes gofal iechyd drwy GIG Cymru yn 2007. Ymysg ei ddiddordebau mae anghydraddoldebau, iechyd y boblogaeth, gofal sylfaenol, gofal brys a gofal argyfyngol. Mae e wedi ymddiddori drwy gydol ei oes mewn addysg a hyfforddiant. Yn 2016, helpodd i sefydlu hyfforddiant meddygaeth israddedig o Barc Iechyd Kier Hardie.
Ef wnaeth greu "Gosod y Cyfeiriad: Gwasanaethau Cychwynnol a Chymuned - Rhaglen Strategol ar Gyfer Cyflenwi" yn 2009. Hefyd, fe wnaeth arwain tri Adolygiad Gweinidogol: Gogledd Cymru (2004), Gwent (2006), a Gwasanaethau y Tu Allan i Oriau (2014).
Roedd Dr Jones hefyd yn Gadeirydd Cyd-ffederasiwn GIG Cymru yn ystod 2015/16.
Erbyn hyn, Chris yw Cadeirydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), sef Bwrdd Iechyd Arbennig sy’n rhan o GIG Cymru ac sy’n eistedd ochr yn ochr â Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau. Mae AaGIC yn chwarae rhan arweiniol wrth addysgu, hyfforddi, datblygu a llunio’r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru er mwyn sicrhau gofal safon uchel.
Mae Chris wedi ymrwymo ar hyd ei fywyd i'r GIG yng Nghymru, mae'n briod â Babs, ac mae ganddynt dri o blant sy'n oedolion erbyn hyn. Ei brif ddiddordebau yw ei wyrion a'i wyresau, pysgota, gwaith coed, ffotograffiaeth, opera, cerddoriaeth glasurol a darllen.