Neidio i'r prif gynnwy
Jane Gwilliam

Amdanaf i

Deon Cyswllt (Cymorth Addysg Ôl-raddedig), Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Ar ôl tyfu i fyny yn Ne Cymru a hyfforddi yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, manteisiodd Jane ar y cyfle i ymgymryd â rhywfaint o'i hyfforddiant ôl-raddedig mewn Meddygaeth Frys dramor, gan ymgartrefu'n ôl yn Ne Cymru o'r diwedd.

 

Fel hyfforddai, ymgymerodd â'r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Feddygol a mynychodd y Pwyllgor Hyfforddiant Arbenigol fel Cynrychiolydd Hyfforddai ar gyfer Meddygaeth Frys. Ar ôl dod yn Ymgynghorydd, ymgymerodd Jane â rôl Arweinydd Hyfforddiant Llai na Llawn Amser ar gyfer Meddygaeth Frys yng Nghymru a daeth yn Oruchwyliwr Addysgol ar gyfer meddygon preswyl mewn Meddygaeth Frys, Ymarferwyr Nyrsio Uwch ac Ymarferwyr Nyrsio Brys.

 

Cyn ymgymryd â rôl Deon Cyswllt (Cymorth Addysg Ôl-raddedig), ymgymerodd â rôl Cyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi a Phennaeth Ysgol Meddygaeth Frys yng Nghymru.