Cyfarwyddwr Rheoli Ansawdd, Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Roedd Malcolm yn ymgynghorydd mewn Gofal Dwys Pediatrig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro rhwng 2000 a 2023. Mae ganddo ddiddordeb mewn addysg erioed ac ar ôl rolau fel Arweinydd Cyfadran, Arweinydd Uned Cymorth Proffesiynol Pediatrig ac aelod o'r Pwyllgor Hyfforddiant Arbenigol (STC), ymunodd â'r Ddeoniaeth Feddygol fel Deon Cyswllt Ansawdd yn 2017, cyn iddo gael ei ymgorffori i AaGIC yn 2018. Mae wedi symud ymlaen yn y rôl honno, gan ddod yn Gyfarwyddwr Rheoli Ansawdd ac yn rhan o Uwch Dîm Rheoli'r Deon ym mis Rhagfyr 2019. Mae'n ymgymryd â gwaith i'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) fel Cydymaith Monitro Uwch ac ar hyn o bryd hefyd yn Ddirprwy Swyddog Cymru ar gyfer Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (RCPCH).