Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ymgymryd ag addysg ôl-gofrestru i ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau ymhellach. Mae hyn yn eu galluogi i wella eu harfer a darparu gwasanaethau gwell i gleifion.
Mae addysg ôl-gofrestru/ôl-raddedig yn adeiladu ar wybodaeth a sgiliau o'r cymhwyster cychwynnol a’r cofrestru. Mae'n rhoi gwybodaeth a sgiliau uwch i weithwyr proffesiynol sy'n berthnasol i'w rôl broffesiynol.
Mae cyllid ôl-gofrestru/ addysg ôl-raddedig ar gael i gefnogi unrhyw weithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig y mae ei rôl yn cynnwys darparu gwasanaethau gofal iechyd, boed hynny’n ffurfio craidd ei ymarfer neu’n elfen ddiffiniedig o rôl glinigol ehangach. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr proffesiynol o fyd nyrsio, bydwreigiaeth, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, a gweithwyr proffesiynol gwyddor gofal iechyd, gan gydnabod bod gofal iechyd yn cael ei ddarparu ar draws ystod eang o leoliadau a disgyblaethau. Felly mae cymhwysedd yn seiliedig ar y gofal iechyd a ddarperir, nid ar deitl proffesiynol na label swydd, gan sicrhau bod y rhai sy'n cyfrannu at anghenion gofal iechyd unigolion, teuluoedd neu boblogaethau yn gallu cael mynediad at gyfleoedd addysg a datblygu priodol sy'n cryfhau arfer diogel, effeithiol ac sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar draws y system.
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn darparu cymorth ychwanegol i sefydliadau i ariannu hyfforddiant a datblygiad staff. Telir ffioedd dysgu ar gyfer pob myfyriwr sydd wedi cael y cyllid hwn drwy eu sefydliad.
Mae canllawiau ariannu ar gael yma.
Rhaid i bob darpar ymgeisydd am gyllid addysg ôl-raddedig sicrhau bod ei reolwr llinell yn nodi'r gofyniad hwn fel rhan o'i Adolygiad Datblygu Gwerthuso Personol a bod ei adran addysg yn cytuno iddo.