Mae addysg, hyfforddiant a datblygiad proffesiynol yn helpu i adeiladu gweithlu gwyddor gofal iechyd medrus yn GIG Cymru. Gall cyllid gefnogi gweithwyr proffesiynol ar wahanol gamau gyrfa, o hyfforddiant lefel mynediad i ddatblygiad lefel uwch ac ymgynghorol.
Mae cyllid yn amrywio yn ôl proffesiwn, cam gyrfa, llwybr hyfforddi ac anghenion gwasanaeth. Mae'r dudalen hon yn dwyn ynghyd wybodaeth am gyfleoedd cyllido i'ch helpu i gynllunio eich datblygiad gyrfa a chael mynediad at ddysgu perthnasol.
I gael rhagor o wybodaeth am gyllid, gweler adran 3 o Fframwaith Gyrfa Gwyddor Gofal Iechyd GIG Cymru.