Mae Canolfan Hyfforddi Seicotherapi Rhyngbersonol De Cymru yn cynnig cwrs chwe diwrnod a ariennir gan AaGIC, sy'n cyflwyno gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol profiadol i Seicotherapi Rhyngbersonol (IPT). Mae'r cwrs hwn yn galluogi'r sawl sy'n ei fynychu i ddeall IPT a sut y caiff ei gymhwyso wrth drin iselder. Byddant yn dysgu'r sgiliau unigryw sydd eu hangen yng nghamau cychwynnol, canol a therfynol gwaith IPT drwy amrywiaeth o ymarferion drwy brofiad. Mae'r cwrs yn darparu llawlyfr manwl sy'n atgyfnerthu'r wybodaeth a enillir, fel eu bod yn y sefyllfa orau i'w defnyddio pan fyddant yn dychwelyd i'w gwasanaethau.
Gall y Ganolfan Hyfforddi ddatblygu clinigwyr i ddod yn ymarferwyr IPT achrededig sydd wedi'u cofrestru ag IPT UK. https://www.iptuk.net/. Ni fydd pob clinigwr yn symud ymlaen i ail gam yr hyfforddiant, sy'n cynnwys tua blwyddyn o ymarfer dan oruchwyliaeth agos ar hyd at bedwar achos. Caiff y rhai sy'n symud ymlaen eu dewis ar ddiwedd y cwrs chwe diwrnod.
Mae gan dri hyfforddwr y cwrs brofiad clinigol helaeth o ddefnyddio IPT mewn lleoliadau clinigol yng Nghymru ar gyfer cleientiaid ag iselder ac anhwylderau bwyta, ac o fewn gwasanaethau plant a phobl ifanc a gwasanaethau amenedigol. Maent hefyd yn hyfforddwyr profiadol sydd wedi'u cofrestru ag IPT UK. Sefydlwyd Canolfan Hyfforddi IPT De Cymru yn 2020 ac mae ganddi hanes profedig o helpu byrddau iechyd yng Nghymru i ddatblygu llwybrau gofal IPT llwyddiannus ar gyfer cleientiaid drwy ddatblygu'r gweithlu.
Cysylltwch â SWIPT.TC.Cav@wales.nhs.uk i gael gwybodaeth am y cwrs Cyflwyniad i IPT chwe diwrnod nesaf ac i gael rhagor o wybodaeth am yr hyfforddiant yn ein llyfryn.