Cymdeithion Anesthesia

Mae cymdeithion anesthesia (AAs) yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio fel rhan o'r tîm anesthetig. 

Maent yn darparu gofal i gleifion cyn, yn ystod ac ar ôl gweithdrefnau sy'n gofyn am anesthesia. 

Maent yn gweithio o fewn cwmpas ymarfer diffiniedig ac o dan oruchwyliaeth anesthetydd ymgynghorol. 

Mae AAs yn cael eu haddysgu trwy raglen hyfforddi ôl-raddedig, sy'n cyfuno astudiaeth academaidd ac ymarfer clinigol dan oruchwyliaeth helaeth. Maent yn cael eu rheoleiddio gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC).