Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.
Yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), mae llais y dysgwr yn sicrhau bod barn a phrofiadau dysgwyr yn cael eu clywed, eu gwerthfawrogi a'u defnyddio i lunio addysg a hyfforddiant, nawr ac yn y dyfodol.
Mae hyn yn cynnwys rhoi cyfleoedd i ddysgwyr rannu adborth, casglu mewnwelediadau’n rheolaidd a’u cynnwys mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu haddysg ar bob lefel.
Mae gan AaGIC rôl strategol wrth ymgorffori llais y dysgwr ar draws addysg gofal iechyd yng Nghymru. Rydym yn gweithio gyda phrifysgolion, GIG Cymru, cyrff proffesiynol a chynrychiolwyr myfyrwyr i sicrhau bod safbwyntiau dysgwyr yn llywio'r broses o wneud penderfyniadau.
Rydym yn creu cyfleoedd i ddysgwyr ddylanwadu ar raglenni gwaith cenedlaethol, gwella ansawdd a datblygiadau strategol. Rydym hefyd yn gweithredu fel cysylltydd ar draws y system, gan sicrhau bod adborth yn cyrraedd arweinwyr addysg a gofal iechyd ac yn cefnogi gwelliant parhaus mewn amgylcheddau dysgu ac ymarfer.
Mae AaGIC yn ymgorffori llais y dysgwr yn ei system rheoli ansawdd, gan sicrhau bod adborth yn cael ei ddefnyddio i yrru gwelliant a llywio penderfyniadau strategol.
Mae hyn yn cynnwys Fforwm Myfyrwyr Iechyd Cymru, offer adborth cenedlaethol a lleol, llwybrau diogel a chyfrinachol i godi pryderon ac ymgysylltiad ehangach sy'n llywio polisi a dylunio addysg. Drwy’r cyfleoedd hyn, gall dysgwyr dynnu sylw at arfer da, codi materion, awgrymu gwelliannau a dylanwadu ar sut mae addysg gofal iechyd yn cael ei chyflwyno yng Nghymru. Mae hyn yn cefnogi canlyniadau gwell i weithlu'r GIG yn y dyfodol.
Mae llais y dysgwr yn gwella ansawdd a pherthnasedd addysg gofal iechyd drwy helpu darparwyr i ddeall beth sy'n gweithio a beth sydd angen newid.
Mae'n cefnogi amgylcheddau dysgu mwy cynhwysol drwy gydnabod profiadau amrywiol a mynd i'r afael â materion sy'n effeithio ar lesiant, cydraddoldeb a pherthyn.
Mae hefyd yn helpu i adeiladu gweithlu hyderus a medrus yn y dyfodol drwy gynnwys dysgwyr yn y broses o lunio eu haddysg a'u datblygiad proffesiynol.