Neidio i'r prif gynnwy

Addysg Rhyngbroffesiynol ac Ymarfer Cydweithredol

Mae Addysg Ryngbroffesiynol ac Ymarfer Cydweithredol (IPECP) yn digwydd pan fydd myfyrwyr o ddwy broffesiwn iechyd a gofal cymdeithasol neu ragor yn dysgu gyda, oddi wrth, ac am ei gilydd er mwyn datblygu cydweithrediad effeithiol a gwella ansawdd y gofal a chanlyniadau iechyd.

Gwerth IPECP

Mae IPECP yn helpu gweithwyr proffesiynol y dyfodol i gydweithio'n well, gan arwain at ofal mwy diogel a chanlyniadau gwell.
 

Cefndir IPECP yng Nghymru 

Mae IPECP wedi datblygu mewn ymateb i'r gydnabyddiaeth gynyddol bod gofal iechyd a chymdeithasol o ansawdd uchel yn dibynnu ar gydweithio effeithiol ar draws proffesiynau a sectorau. Yng Nghymru, mae hyn wedi'i lunio gan yr angen am wasanaethau mwy integredig, sy'n canolbwyntio ar y person, lle na all unrhyw broffesiwn na sefydliad unigol ddiwallu anghenion cymhleth ar ei ben ei hun. O ganlyniad, mae IPECP yn cael ei ddeall fwyfwy fel dull cydweithredol, gan ddod â phartneriaid ymarfer ynghyd ar draws y GIG, gofal cymdeithasol, y sectorau annibynnol a thrydydd sector, a sefydliadau academaidd. Drwy ddysgu gyda, gan ac am ei gilydd, mae myfyrwyr ac addysgwyr yn meithrin dealltwriaeth a rennir, parch at ei gilydd, a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gweithio mewn tîm gan osod y sylfeini ar gyfer systemau mwy cysylltiedig, effeithlon, sy'n canolbwyntio ar y claf.
 

 

Galwad am enghreifftiau o IPECP 

Rhannwch eich enghraifft o Addysg Ryngbroffesiynol ac Ymarfer Cydweithredol (IPECP), gan ddefnyddio'r ffurflen astudiaeth achos isod, i helpu eraill i ddysgu o'ch profiad. Defnyddiwch y templed astudiaeth achos IPECP i roi gwybod i ni beth rydych chi'n ei wneud ac i gynorthwyo datblygiad dysgu ledled Cymru.

Templed Austudiaeth Achos

 
Archwilio IPECP - Dysgwyr Lefel 4 

Ewch i'r ddolen isod i weld enghreifftiau o IPECP a dysgu cydweithredol, ac i weld sut mae gweithio gyda, oddi wrth ac ynglŷn â phroffesiynau eraill yn cynorthwyo gwell gwaith tîm a gofal cleifion.

Hybu Addysg Ryngbroffesiynol(IPE) mewn Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol:Ar gyfer Dysgwyr Lefel 4 Cert HE 

Gallwch hefyd lawrlwytho'r poster IPE - Tystysgrif Au Lefel 4 poster i gael trosolwg syml o beth yw IPE a pham ei fod yn bwysig. 

Lawrlwythwch ef a'i arddangos mewn lleoliadau clinigol, os gwelwch yn dda. 

 

Gwybodaeth am gynadleddau IPECP 

Ewch i'n tudalennau digwyddiadau i ddysgu rhagor am gynadleddau IPECP yng Nghymru.


Cysylltwch â ni