Mae AaGIC/Academi Endosgopi Cymru yn falch i gyhoeddi dyddiadau hyfforddi newydd. Mae’r rhain i fod o gymorth i endosgopyddion sy’n hyfforddi, nyrsys a rheolwyr endosgopi, yn ogystal â staff gweinyddol a chlerigol yng Nghymru. Yn 2026, bydd y cyrsiau hyn yn cael eu darparu yng Nghanolfan Academaidd Keir Hardie (Merthyr Tudful), gydag ystafelloedd seminar o ansawdd uchel a lle labordy clinigol pwrpasol. Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod cyfleoedd hyfforddi ERCP ar gael i nyrsys ac endosgopyddion, fel yr amlinellir isod.
Mae'r Academi Endosgopi hefyd yn gyffrous iawn i gyhoeddi ailagor Canolfan Hyfforddi Endosgopi Ranbarthol Gogledd Cymru ym mis Rhagfyr 2025. Cysylltwch â HEIW.Endoscopy@wales.nhs.uk i gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau a gyflwynir o Ysbyty Maelor Wrecsam yn 2026.
Yn 2026, byddwn hefyd yn dechrau ehangu e-ddysgu, adnoddau ar-lein ac opsiynau cofrestru cyrsiau sy'n gysylltiedig ag endosgopi trwy ddefnyddio Y Tŷ Dysgu, system rheoli digwyddiadau ac e-ddysgu AaGIC. Dewch yn ôl am ddiweddariadau neu cysylltwch â ni gydag unrhyw gwestiynau.
Hyfforddiant i Endosgopyddion
Nod y rhaglen fydd ategu’r cyrsiau canlynol a gymeradwywyd gan JAG ar gyfer hyfforddi endosgopyddion. Mae'r dyddiadau a ddarperir yn rhai dros dro a gallant fod yn destun newid. Cysylltwch â’r Academi Endosgopi yn HEIW.Endoscopy@wales.nhs.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech fynegi diddordeb i fynychu cwrs.
Cyrsiau endosgopi eraill
Hyfforddiant Nyrsys Endosgopi
Gweithwyr endosgopi gweinyddol a chlerigol
Yn 2024 gwnaethom ddarparu cwrs hyfforddi am y tro cyntaf wedi'i anelu at weithwyr gweinyddol a chlerigol endosgopi a gafodd adborth cadarnhaol dros ben. Rydym wedi ymrwymo i barhau i ddatblygu'r llwybr hyfforddi hwn ac yn gweithio i drefnu dyddiadau yn 2026. Cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb i fynychu.
Am unrhyw ymholiadau cychwynnol neu i fynegi diddordeb i gofrestru ar gyfer unrhyw un o'n cyrsiau, cysylltwch â thîm Hyfforddi'r Academi Endosgopi yn HEIW.Endoscopy@wales.nhs.uk a bydd rhywun yn ymateb i'ch ymholiad cyn gynted â phosibl.