Mae'r rhaglen Hyfforddiant Sgiliau Gwella Ansawdd (QIST) yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau ymarferol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol wneud newidiadau amser real. Gall y newidiadau hyn wella gwasanaethau iechyd a gwella'r amgylchedd dysgu.
Mae'r rhaglen yn cefnogi amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi ac adnoddau e-ddysgu, rhithwir ac wyneb yn wyneb Gwella Ansawdd (QI). I gefnogi eich llwyddiant, mae cynnwys y rhaglen yn cael ei fapio yn erbyn eich gofynion unigol yn y cwricwla hyfforddi perthnasol.
Darperir yr hyfforddiant hwn mewn partneriaeth â Ansawdd, Diogelwch a Gwelliant i gyflwyno rhaglen hyfforddi QI unigryw i Gymru.
Rydym yn cynnig preswylydd i feddygon, fferyllwyr a deintyddion dan hyfforddiant a rhai rhaglenni syâ n benodol i AaGIC.
Mae'r hyfforddiant a ddarparwn yn canolbwyntio ar gefnogi gofynion cwricwlwm diffiniedig ar gyfer arbenigeddau a phroffesiynau penodol a chaiff y cynnwys ei fapio yn erbyn gofynion unigol y cwricwla hyfforddi perthnasol. Maeâ r cyrsiau aâ r gweithdai a gynigiwn wediâ u cyfyngu i sicrhau bod y gofynion hynnyâ n cael eu bodloni.
Os hoffech chi fynychu un o'r gweithdai hyn:
Rydym bellach yn defnyddio platfform Y Ty Dysgu ar gyfer ein holl gyrsiau, felly rydym yn argymell eich bod yn cofrestru cyn gynted â phosibl. Mae canllaw cam wrth gam ar sut i wneud hyn ar gael yma.
Pan fyddwch wedi cofrestru, gan gynnwys darparu'r wybodaeth angenrheidiol am y proffesiwn a'r rôl swydd, byddwch yn gallu dod o hyd i'n cyrsiau drwy chwilio am “QIST”.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol am ein rhaglen, gallwch gysylltu â ni yn Tim QIST.
Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant ar gyfer Hyfforddwyr a Goruchwylwyr Addysgol er mwyn iddynt allu cefnogi eu hyfforddai ar eu taith QI – gwelwch ragor yma.
Isod mae gwybodaeth am bob cam o hyfforddiant QIST.