Mae Prifysgol Wrecsam wedi trawsnewid ei hagwedd at y Gymraeg drwy ei rhoi wrth wraidd ei gweledigaeth strategol, gan yrru newid diwylliannol ar draws y sefydliad ac ymgorffori dwyieithrwydd ym mywyd y brifysgol bob dydd.
Mae ymagwedd ffurfiol y Brifysgol at ddatblygu’r Gymraeg yn gymharol ddiweddar. Wrth ymateb i’r blaenoriaethau cenedlaethol a nodir yn strategaethau Cymraeg 2050 a Mwy na Geiriau, ochr yn ochr â gofynion Safonau’r Gymraeg, roedd y Brifysgol yn cydnabod yr angen am ddull mwy bwriadol a strategol.
Fel prifysgol sydd wedi’i lleoli yn agos at y ffin rhwng Cymru a Lloegr, roedd angen amlwg hefyd i fagu hyder ymhlith staff, myfyrwyr a’r gymuned ehangach, ac efallai nad yw llawer ohonynt yn defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.