Datblygu gweithlu nyrsio lleol ar gyfer cymunedau lleol
Yn 2022, sefydlodd Prifysgol Aberystwyth lwybr newydd i nyrsio oedolion ac iechyd meddwl ar gyfer pobl sy'n byw yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, yn dilyn ymarfer tendro cystadleuol a gynhaliwyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Â chefnogaeth buddsoddiad Llywodraeth Cymru a'r Brifysgol, sefydlwyd Canolfan Addysg Gofal Iechyd bwrpasol gyferbyn ag Ysbyty Bronglais, sy'n galluogi myfyrwyr i hyfforddi'n agos at y cymunedau lle maen nhw'n byw a lle, o bosibl, byddan nhw ei wasanaethu yn y pen draw.
Dechreuodd y myfyrwyr cyntaf eu hastudiaethau ym mis Medi 2022 a chymhwysodd y garfan gyntaf yn 2025, â bron 40 o nyrsys oedolion ac iechyd meddwl yn cwblhau eu rhaglenni. Mae'r boblogaeth gyffredinol o fyfyrwyr nyrsio hefyd wedi tyfu i 239. Mae'r ddarpariaeth yn parhau i gael ei chomisiynu gan AaGIC ar ran GIG Cymru.
Mae'r rhaglen yn ymwneud â mwy na chreu cyflenwad o nyrsys. Mae'n ymwneud â datblygu gweithlu sy'n deall y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu, gan gynnwys eu hiaith, eu diwylliant a'u hanghenion iechyd a lles penodol.