Sut gall prifysgolion baratoi gweithwyr iechyd a gwasanaethau cyhoeddus y dyfodol i weithio’n hyderus yn Gymraeg ac yn Saesneg? Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn mynd i’r afael â’r her hon drwy gynnig cyrsiau Cymraeg ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae hyn yn helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau iaith mewn meysydd blaenoriaeth ac yn cyfrannu at gryfhau gweithlu dwyieithog ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Mae’r gwaith hwn hefyd yn cefnogi disgwyliad Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) bod rhaglenni addysg a gomisiynir ganddo yn datblygu sgiliau ac ymwybyddiaeth o’r Gymraeg, gan baratoi graddedigion i ymateb i anghenion ieithyddol y bobl maen nhw’n eu gwasanaethu.
Mae’r Brifysgol wedi troi’r uchelgais hon yn weithred drwy gynnig naw cwrs Cymraeg i fyfyrwyr Lefel 4 (blwyddyn gyntaf). Drwy gyflwyno dysgu Cymraeg ar ddechrau eu hastudiaethau, gall myfyrwyr ddatblygu sgiliau ymarferol ochr yn ochr â’u gwybodaeth broffesiynol, gan feithrin hyder a fydd yn eu cefnogi drwy gydol eu gyrfaoedd.
Gall dechreuwyr gofrestru ar gyrsiau Mynediad, tra gall siaradwyr mwy hyderus fireinio eu sgiliau drwy fodiwlau Gloywi. Mae’r sesiynau wedi’u trefnu o amgylch darlithoedd a seminarau presennol er mwyn sicrhau eu bod mor hygyrch â phosibl ac er mwyn annog presenoldeb. Mae’r ddarpariaeth wyneb yn wyneb hefyd yn gwneud y Gymraeg yn rhan weladwy o fywyd y Brifysgol, yn hytrach nag yn rhywbeth ychwanegol.