Mwy Na Geiriau

Grŵp o staff a gwesteion yn gwenu gyda

Gwneud y Gymraeg yn rhan naturiol o iechyd a gofal yng Nghymru                                                                                                                                                                                             

Mae'r Gymraeg yn fwy na chyfrwng cyfathrebu. Mae'n rhan bwysig o ofal diogel, tosturiol ac sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gryfhau'r Gymraeg ar draws gweithlu iechyd a gofal Cymru, gan gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru drwy strategaeth Mwy Na Geiriau (2022–2027).

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru i sicrhau bod y Gymraeg yn rhan annatod o gynllunio'r gweithlu, addysg, hyfforddiant ac arweinyddiaeth. Ein nod yw helpu i greu gweithlu sy'n hyderus ac yn gallu ymateb i anghenion ieithyddol y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal.

Pam mae hyn yn bwysig?

Pan fydd pobl yn defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal, efallai eu bod yn bryderus, yn sâl neu'n wynebu adeg anodd yn eu bywydau. Gall gallu cyfathrebu yn eu hiaith eu hunain wneud gwahaniaeth sylweddol i'w profiad, eu hurddas a'u lles.

I rai pobl, yn enwedig pobl hŷn, plant, pobl sy'n byw gyda dementia neu bobl sydd ag anghenion iechyd meddwl, gall y gallu i ddefnyddio'r Gymraeg fod yn hanfodol er mwyn mynegi eu hanghenion a theimlo eu bod yn cael eu deall.

Nid yw cynnig gwasanaeth yn Gymraeg yn rhywbeth ychwanegol. Mae'n rhan o ddarparu gofal o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Mae gan bawb ran i’w chwarae

Nid cyfrifoldeb ychydig o unigolion neu dimau yn unig yw hyrwyddo’r Gymraeg. Mae gan bawb sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal ran i’w chwarae, boed hynny drwy ddysgu ychydig eiriau, cefnogi cydweithiwr sy’n dysgu, cynllunio gwasanaeth dwyieithog neu sicrhau bod anghenion ieithyddol pobl yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau. Gall ychydig o Gymraeg wneud gwahaniaeth mawr.

Ein cyfraniad at Fwy na Geiriau

Mae AaGIC yn arwain ar rai camau ac yn cyfrannu at eraill, gan weithio gyda gwasanaethau iechyd i sicrhau bod anghenion iaith pobl yn cael eu hystyried pan wneir penderfyniadau.