Bydd y Portffolio yn cael ei gwblhau drwy e-bortffolio. Rhoddir manylion am hyn i chi a'ch Goruchwyliwr Addysgol ar ddechrau'r Rhaglen.
Bydd triniaethau a gwaith a gyflawnwyd a manylion amrywiol gan gynnwys nifer y cleifion a welwyd, amser Cyfarwyddwr y Rhaglen Addysgu, oriau a weithiwyd ac agweddau amrywiol ar weithgaredd y mis yn cael eu cofnodi. Mae hyn wedi'i gynllunio i ddarparu dysgu myfyriol a bod yn gymorth i hunanreolaeth. Bydd gan y Goruchwyliwr Addysgol a Chyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi fewnbwn i'r e-Bortffolio ond ni chaiff ei asesu'n grynodol. Fodd bynnag, mae'n elfen hanfodol o'r Rhaglen a rhaid rhoi amser a sylw addas i'r Portffolio.