System Rheoli Dysgu – Y Tŷ Dysgu (YTD)
Mae ein System Rheoli Dysgu (LMS) yn blatfform ar gyfer y proffesiwn gofal iechyd ledled Cymru. Bydd yr LMS nid yn unig yn lle i weld eich diwrnodau astudio DFT arlein ac wyneb yn wyneb ond bydd hefyd yn darparu deunydd dysgu i chi ei gyrchu yn eich amser eich hun.
Gan eich bod ar Raglen Hyfforddiant Sylfaen, byddwn wedi eich ychwanegu at ffolder cynnwys sy'n berthnasol i'r Rhaglen. Felly does dim angen i chi wneud unrhyw beth pellach ar hyn o bryd os ydych chi wedi cofrestru ar Y Tŷ Dysgu. Unwaith y bydd diwrnod astudio wedi'i gyflwyno bydd angen i chi fewngofnodi i'r wefan a gwerthuso'r sesiwn, yna bydd hyn yn cynhyrchu tystysgrif DPP.
Wrth i chi symud ymlaen trwy eich llwybr gyrfa yng Nghymru, gallwch newid eich proffesiwn a fydd yn caniatáu ichi gofrestru ar gyfer cyrsiau DPP a chael mynediad at ddeunyddiau ac adnoddau eraill, ond am y tro dyma sut y bydd yr LMS yn ffitio i mewn i DFT.
Gallwch gael mynediad at wefan yr LMS yn https://ytydysgu.heiw.wales
Ar ddiwedd y penodiad, bydd y Deon Deintyddol Ôl-raddedig yn rhoi Tystysgrif Cwblhau i'r Therapydd Sylfaen.
Mae croeso i'ch Goruchwyliwr Addysgol fynychu unrhyw ddiwrnod astudio y mae'n teimlo a allai fod o werth.