Neidio i'r prif gynnwy

Cychwyn Arni

Bydd y canllaw hwn wedi cael ei anfon atoch ar ôl i chi dderbyn lle hyfforddi ar Raglen WDTFT.

Ym mis Medi byddwch yn derbyn eich Contract Cyflogaeth a'ch Cytundeb Addysgol ar eich diwrnod cyntaf o gyflogaeth.  Darllenwch a llofnodwch y ddogfen hon a'i dychwelyd i NWSSP.  Gofynnir i chi lofnodi a dychwelyd un copi i'r tîm SLE drwy e-bost: nwsspSLE@dental.wales.nhs.uk  neu ei bostio at:

Y Gweithlu Meddygol

Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

4-5 Llys Charnwood

Heol Billingsley

Parc Nantgarw

CF15 7QZ

Cyn dechrau ymarfer, dylech fod wedi:

  • Trafod a chytuno ar eich oriau gwaith gyda'ch Goruchwyliwr Addysgol
  • Cytuno ar ddiwrnod cychwyn mewn ymarfer, yn unol â'r "dyddiad cychwyn wythnos" a ddarparwyd gan y Swyddog Gweinyddol, Deoniaeth Ddeintyddol, Cyfarwyddiaeth Feddygol
  • Bodloni eich hun a'ch Goruchwyliwr Addysgol eich bod yn gallu:

Cwblhau’r presenoldeb yn y cyrsiau ymarfer ac astudio a nodir yn eich Contract

Cydymffurfio â thelerau eraill y Contract

Byddwch chi a'ch Goruchwyliwr Addysgol wedi hysbysu'r Swyddog Gweinyddol, Deoniaeth Ddeintyddol, Cyfarwyddiaeth Feddygol am eich apwyntiad.  Erbyn i'ch Contract ddechrau dylech:

  • Wedi cofrestru gyda'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol.  Weithiau mae oedi gyda hyn felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl – ni all therapydd ddechrau ar y Rhaglen nes ei fod wedi cofrestru.  
  • Fod yn aelod o gymdeithas indemniad proffesiynol gydnabyddedig

Erbyn diwedd eich wythnos gyntaf o ymarfer dylech fod wedi:

  • Cael mynediad at Bortffolio Datblygiad Proffesiynol 
  • Cwblhau’r tudalennau Goruchwyliwr Addysgol a manylion personol
  • Cael trafodaeth gychwynnol gyda'ch Goruchwyliwr Addysgol, wedi cwblhau eich rhestr wirio profiad clinigol cychwynnol ac wedi cynhyrchu cynllun gweithredu 
  • Derbyn copi o amserlen y diwrnod astudio
  • Cael eich cyflwyno i weithrediadau'r practis – mae hyn yn amrywio rhwng practisau ond mae'n rhan fawr o'ch ychydig ddyddiau cyntaf yn y practis