Codi Llais heb Ofn - Fframwaith ar gyfer y GIG yng Nghymru
Codi Llais heb Ofn – Beth Sy'n Digwydd Ar ôl i Ni Dderbyn Eich Adborth Unwaith y byddwn yn derbyn eich adborth, bydd y camau nesaf yn dibynnu ar natur a chymhlethdod y pryderon a godwyd. Fel canllaw cyffredinol, mae'r broses fel a ganlyn:
Adolygiad Cychwynnol
Caiff adborth ei adolygu gan y TPD a'r Arweinydd Ansawdd.
Ymgysylltu â'r Practis Lletyol
Gellir mynd i'r afael â phryderon cychwynnol drwy drafodaeth anffurfiol gyda Chyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi (TPD) a'r Goruchwyliwr Addysgol (ES) / y Practis Lletyol.
Fodd bynnag, os yw'r mater yn fwy difrifol neu os oes angen ei archwilio ymhellach, trefnir cyfarfod ffurfiol gyda'r practis lletyol i archwilio'r materion yn fanylach.
Argymhellion a Chamau Gweithredu
Yn seiliedig ar y drafodaeth, gwneir argymhellion a chytunir ar gamau gweithredu penodol—gan gynnwys terfynau amser clir.
Dilyniant
Bydd cyfarfodydd yn cael eu trefnu i fonitro cynnydd a sicrhau bod camau gweithredu y cytunwyd arnynt yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol. Os na welir digon o welliannau, bydd y mater yn cael ei uwchgyfeirio at y Deon Cyswllt i'w adolygu a'i weithredu ymhellach.
Byddwch yn dawel eich meddwl, bydd pob pryder yn cael ei drin gyda'r gofal, y disgresiwn a'r proffesiynoldeb mwyaf. Rydym yn trin pob mater yn gyfrinachol ac yn sicrhau dilyniant priodol i gefnogi datrysiad teg ac adeiladol.
Mae siarad yn bwysig i AaGIC. Os nad ydym yn ymwybodol o'ch pryderon, ni allwn gymryd camau i'ch cefnogi na gwella'ch profiad. Mae eich adborth yn ein helpu i wneud y flwyddyn hon mor gadarnhaol a gwerth chweil â phosibl.
Codi Pryderon Mae'r GDC yn datgan:
Mae gan bob gweithiwr proffesiynol deintyddol gyfrifoldeb proffesiynol i roi gwybod am unrhyw driniaeth neu ymddygiad a allai beri risg i gleifion neu gydweithwyr. Rhan allweddol o hyn yw sicrhau bod diwylliant o agoredrwydd a gonestrwydd yn bodoli. Dylai codi pryder fod yn fewnbwn sy'n cael ei groesawu yn hytrach na'i oddef. Mae'n hanfodol bod staff sy'n codi pryder yn cael eu gwrando a bod camau'n cael eu cymryd ar y wybodaeth. Mae'r math hwn o amgylchedd o fudd i gleifion, cydweithwyr a'r gwasanaeth iechyd ehangach.
Mae Egwyddor 8 o https://www.gdcuk.org/standards-guidance/standards-and-guidance/standards-for-the-dental-team yn ymdrin â chodi pryder, gan ddarparu gwybodaeth am:
Am ragor o wybodaeth am godi pryder ewch i: https://www.gdc-uk.org/raisingconcerns/raising-concerns-about-dental-treatment/how-do-i-raise-a-concern-about-adental-professional/advice-for-professionals-raising-a-concern
Rhaid i chi godi pryder hyd yn oed os nad ydych chi’n gallu rheoli na dylanwadu ar eich amgylchedd gwaith. Mae eich dyletswydd i godi pryderon yn drech na unrhyw deyrngarwch neu bryderon personol a phroffesiynol a allai fod gennych (er enghraifft, ymddangos yn anffyddlon neu gael eich trin yn wahanol gan eich cydweithwyr neu reolwyr). Ni ddylech ymrwymo i unrhyw gontract neu gytundeb gyda'ch cyflogwr na'ch corff contractio sy'n cynnwys 'cymal atal datgelu' a fyddai'n eich atal rhag codi pryderon ynghylch diogelwch cleifion neu'n cyfyngu ar yr hyn y gallech ei ddweud wrth godi pryder. Cofiwch fod eich TPD ar gael i siarad â chi am unrhyw bryderon yr hoffech eu trafod.
Gofal Iechyd Cynaliadwy yng Nghymru
Fis Ebrill 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd yng Nghymru, a dwy flynedd wedyn cyhoeddwyd ei chynllun ar gyfer GIG “sero net” erbyn 2030. Mewn ymateb i’r addewid hon, cyhoeddwyd Cynllun Cyflawni Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru.
Cynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru (llyw.cymru)
Mae gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ran i’w chwarae o ran cefnogi gweithrediad y cynllun hwn, ond gallwn ni i gyd chwarae rhan yn hyn o beth. Disgrifia’r Lancet newid hinsawdd fel “y bygythiad iechyd byd-eang mwyaf y mae’r byd yn ei wynebu yn y 21ain ganrif”.
Gall meddwl am newid hinsawdd fod yn frawychus (mae hyn yn ymateb normal i newyddion drwg; gelwir hyn yn eco-drallod). Gall cydnabod sut ry’n ni’n teimlo, a sut ry’n ni’n gweithredu, wneud inni deimlo’n fwy positif.
Dyma rai camau bach y gallwch chi eu rhoi ar waith:
Mae deintyddiaeth yn wynebu heriau mawr yn helpu i daclo’r broblem, yn enwedig ynghylch dadhalogi, gwaredu gwastraff a’r defnydd o blastigau untro. Mae allyriadau gwasanaethau deintyddol y GIG yn cynrychioli 3% o ôl-troed carbon cyffredinol y GIG.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am Gynaliadwyedd ym maes Deintyddiaeth, cliciwch y ddolen isod i gael mynediad i adnodd arbennig ar wefan y Ganolfan Gofal Iechyd Cynaliadwy.
Sustainable Dentistry: How-to Guide for Dental Practices | Centre for Sustainable Healthcare
Mae Gofal Iechyd Cynaliadwy yn darparu gobaith ar gyfer dyfodol a phlaned iachach.
Dyna pam mae’r Lancet hefyd yn disgrifio newid hinsawdd fel “y cyfle mwyaf i ailddiffinio penderfynyddion cymdeithasol ac amgylcheddol iechyd”.