Neidio i'r prif gynnwy

Cyn i chi ddechrau a'r ychydig wythnosau cyntaf ar ôl hynny

Pethau i feddwl amdanynt cyn dechrau

 

  • Ystyriwch gysylltu â Therapyddion Sylfaen eraill sydd wedi'u dyrannu i'r cynllun i weld a allech chi fyw/teithio gyda'ch gilydd.
  • Meddyliwch am sut y byddwch chi'n teithio i'r practis a lleoliad y diwrnod astudio.  Os nad ydych chi'n gyrru, efallai y bydd angen i chi edrych ar amserlenni bysiau/trên neu ystyried pasio'ch prawf gyrru.

 

  • Bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn darparu rhestr o'r practisau ar y rhaglen i Therapyddion Sylfaen (FT).  Y nod yw rhoi digon o wybodaeth i'r FT am bob practis i allu dewis yn hyderus.  
  • Bydd Swyddog Gweinyddol AaGIC mewn cysylltiad ag arweiniad pellach ar drefniadau ar gyfer amserlen y diwrnod astudio ac ati.
  • Bydd AaGIC yn rheoli eich Rhaglen Hyfforddiant Sylfaen dros y flwyddyn nesaf. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich addysg neu'r hyfforddiant, cysylltwch â'r Swyddog Gweinyddol neu Gyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddiant. 
  • Bydd AaGIC mewn cysylltiad dros yr ychydig fisoedd nesaf gyda'ch manylion mewngofnodi i gael mynediad at E-Bortffolio Hyfforddiant Sylfaen.