Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae cyfryngau cymdeithasol wedi ymgorffori’n gyflym yn ein bywydau bob dydd. Mae'n cynnig cyfleoedd gwych i sefydliadau ac unigolion wrando a chael sgyrsiau gyda'r bobl maen nhw'n dymuno, yn broffesiynol ac yn bersonol. Fodd bynnag, mae'n werth cofio'r pwyntiau allweddol a nodwyd isod.
Mae'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol yn rhoi'r canllawiau canlynol:
Mae safleoedd rhwydweithio cymdeithasol a chyfryngau cymdeithasol eraill yn ffyrdd effeithiol o gyfathrebu ag eraill ar lefel bersonol a phroffesiynol.
Mae cyfryngau cymdeithasol yn cwmpasu nifer o offer sy'n seiliedig ar y rhyngrwyd gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, blogiau, fforymau rhyngrwyd, cymunedau cynnwys a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol fel Twitter, YouTube, Facebook, LinkedIn, GDPUK, Instagram a Pinterest.
Mae gwefannau rhwydweithio cymdeithasol proffesiynol sydd wedi'u hanelu'n unig at weithwyr deintyddol proffesiynol hefyd yn ffurfiau o gyfryngau cymdeithasol ac maent wedi'u cynnwys yn y canllawiau hyn.
Mae 4.2.3 o Safonau ar gyfer y Tîm Deintyddol yn nodi:
'Rhaid i chi beidio â phostio unrhyw wybodaeth na sylwadau am gleifion ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol na blogio. Os ydych chi'n defnyddio cyfryngau cymdeithasol proffesiynol i drafod achosion dienw at ddiben trafod arfer gorau, rhaid i chi fod yn ofalus na ellir adnabod y claf neu'r cleifion.’
Wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, rhaid i chi:
a) Cynnal a diogelu gwybodaeth cleifion drwy beidio â chyhoeddi unrhyw wybodaeth a allai eu hadnabod ar gyfryngau cymdeithasol heb eu caniatâd penodol.
Fel cofrestrydd mae gennych gyfrifoldeb i ymddwyn yn broffesiynol ac yn gyfrifol arlein ac all-lein.
Gall eich delwedd ar-lein effeithio ar eich bywyd proffesiynol a ni ddylech bostio unrhyw wybodaeth, gan gynnwys ffotograffau a fideos, a allai ddwyn anfri ar y proffesiwn.
Mae'n bwysig cofio bod unrhyw beth rydych chi'n ei bostio ar gyfryngau cymdeithasol yn y parth cyhoeddus a gellir ei gopïo a'i ailddosbarthu'n hawdd heb i chi wybod.
Dylech chi dybio y bydd popeth rydych chi'n ei rannu ar-lein yno'n barhaol. Meddyliwch yn ofalus cyn derbyn ceisiadau am ffrindiau gan gleifion.
Adolygwch eich gosodiadau preifatrwydd yn rheolaidd i sicrhau nad yw cynulleidfaoedd anfwriadol yn cael mynediad at wybodaeth, fodd bynnag, cofiwch nad yw hyd yn oed y gosodiadau preifatrwydd mwyaf llym yn gwarantu y bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw'n ddiogel a gallai unrhyw wybodaeth a bostiwch gael ei gweld gan unrhyw un, gan gynnwys eich cleifion, cydweithwyr neu gyflogwr. Cofiwch, hyd yn oed os nad ydych chi'n eich adnabod eich hun fel gweithiwr proffesiynol deintyddol, gallech chi beryglu eich cofrestru o hyd os ydych chi'n ymddwyn yn amhriodol wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.
Ni ddylech gael trafodaethau gyda'ch cleifion am eu gofal a'u triniaethau deintyddol ar gyfryngau cymdeithasol.
Er y gall trafodaethau ar-lein am gleifion dienw ac arfer gorau fod o fudd addysgol a phroffesiynol, dylech gofio nad yw postio gwybodaeth o dan enw defnyddiwr arall yn gwarantu y caiff eich cyfrinachedd ei ddiogelu.
Ystyriwch sut mae eich sylwadau'n adlewyrchu arnoch chi yn ogystal â sut y gallent effeithio ar ymddiriedaeth y cyhoedd yn y proffesiwn.