Neidio i'r prif gynnwy

Tracey Davies - Podiatrydd

 

Beth mae fy rôl a'm diwrnod arferol yn ei gynnwys

Mae pob diwrnod mewn podiatreg yn wahanol. Rwy'n gwneud llawdriniaeth ewinedd un diwrnod bob wythnos ac yn gweithio mewn clinigau cymunedol ar y ddau ddiwrnod arall. Mae pobl yn dod ataf gyda llawer o fathau o broblemau gyda'u traed a'u coesau.

Dydw i byth yn gwybod pa broblem y byddaf yn ei gweld nesaf. Gallai fod yn gorn bach, ewinedd traed sy'n tyfu i mewn, toriad, haint yn yr asgwrn, problemau cerdded, neu broblemau gyda llif y gwaed.
 

Yr hyn rwy’n ei fwynhau am fy swydd

Rwy’n wrth fy modd y gallaf weithiau helpu pobl i deimlo'n well ar unwaith, mewn rhai achosion gall cleifion ddod ataf mewn llawer o boen ac rwy’n gallu gwneud rhywbeth sy'n rhoi rhyddhad iddyn nhw ar unwaith!

Rwyf hefyd yn mwynhau'r rhan o bodiatreg nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn gwybod amdani. Rydym yn gwneud llawer o wiriadau ar ein cleifion. Rydym wedi sylwi ar guriadau calon afreolaidd, canserau'r croen, problemau fitaminau a salwch eraill nad yw pobl yn disgwyl i bodiatryddion ddod o hyd iddynt. Helpu pobl i deimlo'n well yw rhan orau fy swydd.
 

Fy uchelgeisiau gyrfa

Mae yna lawer o gyfleoedd i ddysgu a thyfu mewn podiatreg. Mae yna wahanol feysydd y gallwch weithio ynddynt, fel diabetes, llif y gwaed, cyhyrau a chymalau. Rwy'n sicrhau fy mod yn mynd i bob sesiwn hyfforddi a chyrsiau er mwyn i mi allu cael y wybodaeth ddiweddaraf am bethau newydd ym maes podiatreg.
 

Y math o berson y byddai'r rôl hon yn addas iddo

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn gofal iechyd feddwl am bodiatreg. Mae angen i chi fod yn ofalgar, yn garedig ac yn barod i ddysgu pethau newydd.

Mae angen sgiliau datrys problemau da arnoch chi hefyd a bod yn hapus i siarad â phobl. Mae podiatreg yn waith ymarferol, felly mae'n rhaid i chi fod yn barod i ddefnyddio'ch sgiliau ymarferol a'ch sgiliau datrys problemau a bod yn hapus i siarad â phobl.

Mae podiatreg yn waith ymarferol, felly mae'n rhaid i chi fod yn barod i ddefnyddio'ch sgiliau ymarferol - sgiliau datrys problemau a bod yn hapus i siarad â phobl. Mae podiatreg yn waith ymarferol, felly mae'n rhaid i chi fod yn barod i ddefnyddio'ch sgiliau ymarferol.