Neidio i'r prif gynnwy

Bethan Gray - Technegydd Fferyllol

 
Beth mae fy rôl a'm diwrnod arferol yn ei gynnwys

Rhan fawr o fy swydd yw helpu'r fferyllydd practis i wneud yn siŵr bod meddyginiaethau cleifion yn ddiogel ac yn effeithiol. Rwy'n helpu i sicrhau bod cleifion sy'n cymryd meddyginiaethau am amser hir yn cael eu hiechyd wedi'i wirio'n rheolaidd ac rwy'n eu hatgoffa pryd mae angen iddyn nhw ddod i mewn am archwiliad. Os oes angen iddyn nhw newid eu meddyginiaeth, rwy'n helpu gyda hynny. Rwyf hefyd yn sicrhau bod unrhyw gyngor neu gyfarwyddiadau gan ysbytai neu glinigau yn cael eu dilyn.

Rwy'n defnyddio polisïau a gweithdrefnau sef rheolau sy'n fy helpu i wneud pethau yn y ffordd gywir. Mae defnyddio chwiliadau cyfrifiadurol yn caniatáu i mi ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnom yn gyflym i helpu pobl yn ddiogel. Rwyf hefyd yn gwirio profion gwaed ar gyfer pobl sy'n cymryd meddyginiaethau sydd angen gofal ychwanegol fel y rhai ar gyfer teneuo gwaed neu rai meddyginiaethau sydd angen cefnogaeth gan yr ysbyty a'r feddygfa gyda'i gilydd. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod y cleifion yn ddiogel i barhau â'u meddyginiaeth cyn i'r presgripsiwn gael ei lofnodi a'i anfon i'r fferyllfa. Os yw unrhyw beth yn edrych o'i le, rwy'n dweud wrth y fferyllydd.


Yr hyn rwy’n ei fwynhau am fy swydd

Rwy’n hoffi fy swydd oherwydd dw i'n dysgu pethau newydd bob dydd. Rwy'n dysgu am wahanol feddyginiaethau, sut maen nhw'n gweithio, sut i'w defnyddio'n ddiogel a phryd mae angen profion gwaed ar bobl. Rwyf hefyd yn mwynhau gweithio gyda thîm fferyllfa cyfeillgar a threfnus sy'n fy helpu i dyfu a dysgu hyd yn oed yn fwy.


Fy uchelgeisiau gyrfa

Rwyf am barhau i ddysgu er mwyn i mi allu dod yn Dechnegydd Fferyllfa Glinigol. Byddai hyn yn golygu ymgymryd â mwy o gyfrifoldeb yn y practis meddyg teulu a datblygu fy sgiliau wrth helpu pobl i ddefnyddio eu meddyginiaethau yn ddiogel ac yn y ffordd orau.


Sut ges i'r rôl hon

Rwyf i wedi gweithio mewn fferyllfeydd cymunedol a fferyllfeydd ysbytai, a oedd yn golygu fy mod i wedi fy mharatoi'n dda ar gyfer swydd mewn practis meddyg teulu. Ar un adeg roeddwn i'n gweithio fel technegydd cymorth rhagnodi dros dro ac roeddwn i mor hoff o hynny nes i mi wneud cais am swydd amser llawn yn Meddygfa Ashgrove dros bum mlynedd yn ôl. Rwy’n dal yma ac yn ei fwynhau'n fawr iawn.

Pan ddechreuais i, roedd Technegwyr Fferyllfa mewn meddygfeydd teulu yn eithaf newydd ac nid yn gyffredin iawn. Mae wedi bod yn gyffrous tyfu yn y swydd hon a dysgu ochr yn ochr â'r fferyllwyr a'r meddygon teulu.


Y math o berson y byddai'r rôl hon yn addas iddo

Mae angen i berson yn y swydd hon siarad yn glir ac yn garedig â chleifion a staff eraill. Dylent fod yn drefnus, yn ofalus ac yn gyfrifol. Mae angen iddyn nhw allu gweithio'n dda gyda thîm o weithwyr gofal iechyd gwahanol ond hefyd fod yn hyderus yn gweithio ar eu pen eu hunain mewn practis meddyg teulu. Dylent ofalu am iechyd a lles, mwynhau dysgu pethau newydd a chael agwedd gadarnhaol wrth helpu cleifion.