Mae’r broses recriwtio ar gyfer y rhaglen yn cael ei goruchwylio gan y Swyddfa Rhaglen Sylfaen y DU (UKFPO). I gael gwybodaeth fanwl am y rownd recriwtio gyfredol, ewch i UKFPO website.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau nad ydyn nhw wedi'u cynnwys ar y wefan hon, e-bostiwch Ysgol Sylfaen Cymru gyda’ch ymholiad.
Cwestiynau Cyffredin Recriwtio a Dyrannu ar gyfer FP2026
Cwblheir ceisiadau drwy'r porth recriwtio ar-lein Oriel. Bydd angen i ymgeiswyr cymhwystra gofrestru eu hunain er mwyn llenwi'r ffurflen gais Cymhwystra. Bydd graddedigion ysgolion meddygol y DU yn cael eu henwebu gan eu hysgolion meddygol a’u gwahodd i gofrestru ar e-bost.
Gweler gwefan Swyddfa Rhaglen Sylfaen y DU (UKFPO) am ddyddiadau cau ar gyfer y rownd recriwtio bresennol, a gwybodaeth bellach am y broses ymgeisio genedlaethol.
Dyraniad i Raglen Sylfaen
Oni bai eu bod yn cael eu dyrannu'n uniongyrchol i swydd trwy brosesau recriwtio FPP ar wahân, bydd Meddygon Sylfaen yn cael eu dyrannu i Ysgol Sylfaen i ddechrau gan ddefnyddio algorithm Oriel. Gweler canllawiau UKFPO i gael rhagor o fanylion am hyn.
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr a ddyrennir i Ysgol Sylfaen Cymru gymryd rhan mewn proses ddewis “dau gam”. Mae hyn yn golygu y bydd ymgeiswyr yn graddio yn gyntaf ac yn cael eu dyrannu i “grŵp”, ac yna'n cael eu graddio ac yn cael eu dyrannu i raglen o fewn y “grŵp hwnnw”.
Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu ar wahân i'r rhai sy'n gymwys ar gyfer rhag-ddyrannu neu unrhyw un sy'n cael ei ddyrannu i raglen deiliad lle i ddechrau.
Mae ein rhaglenni sylfaen yn cynnwys 3 lleoliad 4 mis ym mlynyddoedd S1 a S2.
Ceir rhagor o fanylion am raglenni unigol ar y dudalen Rhaglenni.
Sylwch nad yw Cymru yn cymryd rhan mewn recriwtio ar wahân ar gyfer y Rhaglen Sylfaen Arbenigol, ac mae ein holl swyddi SFP wedi'u cynnwys yn y brif Raglen Sylfaen.
Mae Cymru yn cynnig SFP mewn ymchwil, addysg feddygol a phrofiadau arbennig eraill (fel Meddygaeth Mynydd ac Arfordirol). Mae'r rhain yn digwydd naill ai yn y flwyddyn F1 neu F2 ochr yn ochr â'r lleoliadau 4 mis a neilltuwyd.
Ceir rhagor o fanylion yn y llyfryn SFP ar y dudalen Rhaglenni.
Ni fydd proses recriwtio UKFP 2027 ar wahân ar gyfer FPP. Fel yr oedd yn wir ar gyfer UKFP 2026, ni fydd unrhyw swyddi gwag FPP ar wahân ar Oriel unwaith eto, ac felly ni fydd proses gynnig ar wahân ar gyfer FPP.
Lansiwyd model peilot “LIFT” yng Nghymru yn 2020, gyda'r nod o wella cynnydd clinigol ac ymarfer sy'n canolbwyntio ar y claf, yn ogystal ag ansawdd y profiad addysgol.
Yn y rhaglenni hyn, ymgymerir ag arbenigedd ychwanegol (e.e Ymarfer Cyffredinol) am 1 diwrnod yr wythnos trwy gydol y flwyddyn F1 neu F2, ochr yn ochr â'r lleoliadau 4 mis. Mae hyn yn caniatáu i Feddygon Sylfaen brofi arbenigedd ychwanegol yn ogystal â chael profiad mwy hirdymor yn yr arbenigedd hwnnw.
Ceir rhagor o fanylion am raglenni unigol ar y dudalen Rhaglenni.
Er mwyn cefnogi'r trawsnewidiad o fyfyriwr meddygol i feddyg Sylfaen, bydd AaGIC yn treialu proses ddyrannu lleol ar gyfer Rhaglen Sylfaen Cymru o fis Awst 2027 ymlaen. Gan weithio mewn partneriaeth â'r ysgolion meddygol ym Mangor, Caerdydd ac Abertawe, bydd y cynllun peilot yn darparu mwy o barhad rhwng hyfforddiant meddygol israddedig ac ôl-raddedig drwy lwybr tair blynedd sy'n cwmpasu blwyddyn olaf yr ysgol feddygol a'r ddwy flynedd rhaglen sylfaen. Nod y cynllun peilot PMQ+FP yw gwella parodrwydd ar gyfer ymarfer a chefnogi'r trawsnewidiad o fyfyriwr i feddyg.
Yn ei flwyddyn gyntaf, bydd yn cynnwys 18 o raglenni sylfaen ar draws tri bwrdd iechyd.
Os bydd gordanysgrifio ar gyfer y Rhaglen Sylfaen yng Nghymru (h.y. mae mwy o ymgeiswyr wedi'u dyrannu i Gymru na nifer y swyddi Sylfaen ), bydd rhai ymgeiswyr yn cael eu dyrannu i grŵp "Deiliad Lle" yn hytrach na grŵp Bwrdd Iechyd yn y lle cyntaf.
Bydd yr ymgeiswyr hyn yn cael eu dyrannu i swyddi ar ôl y brif broses ddyrannu. I gael gwybodaeth am yr amserlen a'r broses ar gyfer eleni, cysylltwch ag Ysgol Sylfaen Cymru.
Mae rhaglenni F2 SA yn swyddi blwyddyn, cyfnod penodol ar lefel Blwyddyn Sylfaen 2 (F2), a all godi y tu allan i broses recriwtio’r Rhaglen Sylfaen genedlaethol ddwy flynedd. Mae Swyddfa Rhaglen Sylfaen y DU (UKFPO) wedi cadarnhau na fydd bellach yn cydlynu proses recriwtio F2 Annibynnol ledled y DU o 2027 ymlaen
Ni fydd Ysgol Sylfaen Cymru yn recriwtio’n ffurfiol i raglenni F2 Annibynnol, a bydd unrhyw swyddi gwag F2 yn cael eu rhyddhau i’w recriwtio fel Penodiadau Locwm ar gyfer Gwasanaeth (LAS) gan Fyrddau Iechyd lleol. Os bydd meddyg yn cael swydd LAS 12 mis ar lefel F2, gellir cyflwyno cais i’r Ysgol Sylfaen Cymru i adolygu a fyddai’n briodol ei throsi’n swydd Penodiad Locwm ar gyfer Hyfforddiant (LAT), er mwyn derbyn Tystysgrif Cwblhau’r Rhaglen Sylfaen (FPCC) yn dilyn Adolygiad Blynyddol o Ddatblygiad Cymhwysedd (ARCP) llwyddiannus ar ddiwedd y swydd.