Recriwtio 2027 ar gyfer Offthalmoleg ST1 a Dermatoleg ST3 yng Nghymru
Ar gyfer recriwtio 2027, bydd swydd wag ar wahân yng Nghymru yn cael ei hysbysebu ar gyfer Offthalmoleg ST1 a Dermatoleg ST3.
Mae'r dull hwn yn cael ei gyflwyno i ddarparu llwybr clir i ymgeiswyr sy'n dymuno ymgymryd â'u hyfforddiant arbenigol yng Nghymru i wneud cais am raglen hyfforddi yng Nghymru. Mae'n rhan o'r gwaith i gryfhau recriwtio a chadw yng Nghymru ac i ddeall yn well y garfan ymgeiswyr sy'n dewis Cymru fel eu lle i hyfforddi, tra'n cadw aliniad â'r trefniadau recriwtio arbenigol ehangach.
Gwneud cais ar-lein drwy System Recriwtio Oriel
Ar gyfer mynediad 2027 i hyfforddiant arbenigol mewn Offthalmoleg ST1 a Dermatoleg ST3 bydd dwy hysbyseb o fewn Oriel pan fydd ceisiadau yn agor ar 22 Hydref 2026 (Offthalmoleg) a 19 Rhagfyr 2026 (Dermatoleg). Un ar gyfer Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ac un ar gyfer Cymru.
Bydd ymgeiswyr Offthalmoleg a Dermatoleg yn gallu gwneud cais am swydd wag Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon neu'r swydd wag yng Nghymru, ond ni allant wneud cais am y ddwy. Gan mai dim ond ar gyfer un swydd wag y gellir ystyried ceisiadau, dylai ymgeiswyr sicrhau eu bod yn gwneud cais i'w lleoliad hyfforddi dewisol yn unig.
Ni fydd y system Oriel yn eich atal rhag gwneud dau gais. Ar y dyddiad mae’r ceisiadau yn cau, bydd unrhyw ymgeiswyr sydd â chais byw (h.y. heb ei dynnu'n ôl) i'r ddwy swydd wag yn cael y cais gyda'r dyddiad cyflwyno cynharaf yn cael ei dynnu'n ôl.
Ni fydd ceisiadau a dynnwyd yn ôl gan yr ymgeisydd cyn dyddiad cau'r cais yn cyfrif fel dyblyg.
Ni ddylai ymgeiswyr dynnu eu cais dyblyg eu hunain yn ôl ar ôl i'r ffenestr ymgeisio gau. Dim ond y tîm recriwtio perthnasol y dylai tynnu'n ôl.
Bydd ymgeiswyr i'r swydd wag yng Nghymru yn dilyn yr un prosesau sgorio, rhestr hir, rhestr fer a chyfweld ag ymgeiswyr i'r swydd wag yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. I gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio ar gyfer y ddau arbenigedd, gweler gwefannau recriwtwyr arweiniol.
Dermatology | PHST Recruitment - Full, comprehensive guidance on applying to HST posts
Ophthalmology ST1 | Medical Hub