Os ydych chi'n gweithio ym maes gofal sylfaenol brys yng Nghymru, mae'r Fframwaith Ymarferydd Gofal Sylfaenol Brys (UCP) yma i gefnogi eich datblygiad proffesiynol. P'un a ydych newydd ddechrau neu eisoes yn glinigwr profiadol.
Mae'r fframwaith hwn wedi'i gynllunio ar gyfer timau aml-broffesiynol, gan gynnwys nyrsys, fferyllwyr, parafeddygon a ffisiotherapyddion.
Mae'n eich helpu i feithrin eich sgiliau, olrhain eich cynnydd, a chysylltu ag eraill sy'n gweithio mewn rolau tebyg ledled Cymru.
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi lansio adnodd cymorth iechyd meddwl newydd ar gyfer y gweithlu gofal sylfaenol brys amlbroffesiynol ledled GIG Cymru. Mae'r adnodd yn darparu mynediad canolog i weithwyr proffesiynol iechyd a gofal sy'n gweithio o fewn gofal sylfaenol brys at offer a chanllawiau ymarferol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth y gellir eu defnyddio i helpu i asesu ac ymateb yn effeithlon i bryderon iechyd meddwl cleifion.
Mae'r lansiad hwn, sydd ar gael am ddim ar borth y Tŷ Dysgu AaGIC ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal yn nodi'r cyntaf mewn cyfres arfaethedig o adnoddau cefnogol ar gyfer y tîm gofal sylfaenol brys. Bydd adnoddau ychwanegol sy'n cwmpasu meysydd allweddol, gan gynnwys iechyd menywod a phediatreg, ar gael ar Y Ty Dysgu dros y misoedd nesaf.
Gallwch gysylltu â ni yn HEIW.PrimaryCare@wales.nhs.uk.