Neidio i'r prif gynnwy

Fframwaith Cymhwysedd Ymarferwyr Clinigol Uwch (ACP)

 
CAM 1: Cyd-ddatblygu'r fframwaith

Mae ymarfer clinigol uwch (ACP) yn cael ei ddarparu gan ymarferwyr gofal iechyd profiadol, cofrestredig a nodweddir gan lefel uchel o ymreolaeth a phenderfyniadau cymhleth. Fodd bynnag, hyd yn hyn, ni fu unrhyw ymdrech yng Nghymru i ddiffinio’r cymwyseddau sydd eu hangen i ymgymryd ag ymarfer clinigol uwch o fewn gofal sylfaenol neu gymunedol.

Mae AaGIC, mewn partneriaeth â grŵp o weithwyr proffesiynol o bob bwrdd iechyd, wedi datblygu Fframwaith Cymhwysedd Ymarferwyr Clinigol Uwch aml-broffesiynol ar gyfer clinigwyr sy’n gweithio mewn lleoliadau sylfaenol a chymunedol.

Er mwyn sicrhau cyfraniad trylwyr gan ystod o ymarferwyr ledled Cymru, rydym yn rhoi cyfle i chi roi eich barn ar y fframwaith.

Mae'r ffurflen adborth yn cau ar 20 Gorffennaf 2024.

 Bydd yn caniatáu i ymarferwyr gofal uwch:

  • diffinio'r cymwyseddau sydd eu hangen i weithio mewn gofal sylfaenol a chymunedol ar lefel uwch. Mae’r unigolyn yn hunanasesu ei gymhwysedd ei hun yn erbyn cyfres o feysydd ac yn nodi’r cymwyseddau allweddol sydd eu hangen o fewn eu cwmpas ymarfer)
  • caniatáu i unigolion fapio eu hanghenion addysg a hyfforddiant eu hunain er mwyn cynnal ac ymestyn eu cwmpas ymarfer i’r math o adnoddau sydd eu hangen i gyflawni’r cymhwysedd hwnnw
  • darparu disgrifyddion ‘cwmpas ymarfer’ clir ar gyfer pob blwyddyn o hyfforddiant, a chynllunio eu datblygiad, tra’n bod yn glir ynghylch eu cwmpas ymarfer presennol
  • yn manylu ar y sgiliau clinigol craidd sydd y tu ôl i bob maes ymarfer / cyflwyniad dangosol.
 
Cam 2: Gwreiddio Fframwaith Cymhwysedd Ymarferwyr Clinigol Uwch (ACP) fel adnodd e-bortffolio ar Y tŷ Dysgu 

Unwaith y bydd yr ymgynghoriad hwn wedi'i gyflawni, ac y cytunir ar fframwaith cymhwysedd terfynol, bydd Fframwaith Cymhwysedd Ymarferwyr Clinigol Uwch (ACP) yn cael ei gynnal ar blatfform y Tŷ Dysgu AaGIC.

Bydd yr e-bortffolio yn:

  • darparu ffordd i'r unigolyn gofnodi ei lefel cymhwysedd presennol yn ogystal â'r DPP a gyflawnwyd
  • hwyluso cwblhau Adolygiad o Arfarniad Perfformiad a Datblygiad blynyddol (PADR) trwy gadw gwybodaeth mewn un.