Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.
Ni fu erioed gymaint o strwythurau a phrosesau ar gael i’ch helpu i ddatblygu’ch gyrfa ar hyd eich llwybr hyfforddi. Wrth gamu ymlaen mewn gyrfa feddygol, bydd angen cymorth weithiau gyda’r canlynol:
Yn y lle cyntaf, bydd nifer o bobl ar gael ar lefel leol i gynnig cyngor ac arweiniad. Mae’r Canllaw Dewisiadau Cymorth Gyrfaoedd yn dangos y cymorth sydd ar gael ar bob cam yn eich gyrfa feddygol ar lefel leol, lefel uwch a lefel AaGIC. Cliciwch ar enw’r rôl yn y "pyramid cymorth" i gael gwybod pwy sydd ar gael a pha fath o ymholiadau y mae’n gallu delio â nhw. Mae’r rolau hyn yn cynnwys:
Mae nifer cynyddol o hyfforddwyr gyrfaoedd meddygol annibynnol. Rydym yn awgrymu eich bod yn chwilio ar Google neu’n edrych ar twitter am opsiynau ar gyfer hyfforddiant gyrfaoedd wyneb yn wyneb neu o bell.