Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.
Mae AaGIC yn darparu gwybodaeth, canllawiau a chyfleoedd dysgu am ddim, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, i weithwyr gofal iechyd proffesiynol i wella cydnabyddiaeth, diagnosis a rheolaeth gyson o gyflyrau iechyd menywod.
Endometriosis, adenomyosis, y menopos, iechyd mislif ac atal cenhedlu yw dim ond rhai o'r cyflyrau iechyd sy'n effeithio ar fenywod ledled Cymru bob dydd.
Mae ymchwil yn dangos, er bod menywod yn byw'n hirach na dynion, eu bod yn byw llai o flynyddoedd heb anabledd, yn aros yn hirach i gael rhyddhad poen ac mae llawer o fenywod yn nodi bod eu symptomau wedi cael eu diystyru.
Dyna pam mae gwella addysg iechyd menywod ledled Cymru yn hanfodol ar gyfer triniaeth gyson a gofal tosturiol, sy'n canolbwyntio ar y person, i fenywod.
Ym mis Mawrth 2026, lansiodd AaGIC Hwb Addysg Iechyd Menywod GIG Cymru ar Y Tŷ Dysgu.
Wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru, mae'r ganolfan ddigidol yn cynnwys ystod eang o adnoddau a modiwlau e-ddysgu am ddim sy'n cwmpasu:
Mae cynlluniau i barhau i ddatblygu'r ganolfan a'i hadnoddau i gwmpasu cyflyrau iechyd menywod yn cynrychioli cynnydd tuag at gau bylchau addysg a gwella cysondeb mewn gofal.
Drwy wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, mae AaGIC wedi ymrwymo i gefnogi darparu gofal gwybodus, o ansawdd uchel a chyfartal i fenywod yng Nghymru.
Mae datblygu'r adnoddau hyn yn cefnogi Cynllun Iechyd Menywod Cymru (2025-2035) yn uniongyrchol. Wedi’i greu gan y Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Menywod, mae’r cynllun yn nodi sut y bydd sefydliadau’r GIG yng Nghymru yn cau’r bwlch iechyd rhwng y rhywiau drwy ddarparu gwell gwasanaethau iechyd i fenywod, gan sicrhau y gwrandewir arnynt, a bod eu hanghenion iechyd yn cael eu deall. Nod y cynllun yw gwella gofal iechyd i fenywod drwy gydol eu hoes ac mae'n seiliedig ar adborth gan 4,000 o fenywod.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith AaGIC yn y maes hwn, tanysgrifiwch i'n Rhestr Bostio Iechyd Menywod.