Drwy’r Uned Cymorth Proffesiynol (PSU) mae gennych fynediad at:
Os oes angen i chi ailsefyll arholiadau dro ar ôl tro neu os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch e-bortffolio a rheoli blaenoriaethau, gallwn ddarparu mynediad at sgrinio dyslecsia QuickScan. Cysylltwch â ni a gallwn drafod opsiynau cymorth.
Pryd i gael mynediad at gymorth arholiadau
Rydym yn argymell cysylltu â ni ar ddechrau eich adolygiad fel y gallwn eich cefnogi'n iawn. Mae hyn rhwng chwech a naw mis cyn eich arholiad.
Fodd bynnag, os ydych chi wedi dechrau adolygu ac eisiau cymorth, cysylltwch â ni o leiaf 3 mis cyn eich arholiad.
Os oes angen addasiadau rhesymol arnoch ar gyfer arholiad, cyfeiriwch at wefan eich Coleg Brenhinol i gael manylion ynghylch pryd a sut i wneud cais. Noder, gallai hyn fod cyn dyddiad cau'r cais am arholiad.
Cefnogaeth gan eich goruchwyliwr addysgol neu glinigol
Os byddwch chi'n sylwi ar fylchau mewn gwybodaeth neu sgiliau clinigol, dylech chi ofyn i'ch goruchwyliwr addysgol neu glinigol am gyfleoedd datblygu y gallech chi eu hangen.
Efallai y bydd y deunyddiau hyn o ddefnydd i chi hefyd: